Asesiad o’r Effaith ar Iechyd yn amlygu’r angen brys i ddiogelu iechyd a llesiant wrth i’r hinsawdd newid

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi Asesiad o’r Effaith ar Iechyd ar effeithiau newid hinsawdd ar iechyd a llesiant ledled Cymru. Mae’r asesiad yn cydnabod mai newid hinsawdd yw’r bygythiad mwyaf i iechyd a llesiant y bydd Cymru yn ei wynebu’r ganrif hon.  

Mae ein hiechyd a’n llesiant yn dibynnu ar ecosystemau pwysig fel dŵr, aer a phridd i ddarparu’r amodau hanfodol ar gyfer bywyd iach. Bydd newidiadau i’n hinsawdd fel tywydd gwlypach yn y gaeaf, llifogydd, erydu arfordirol, a hafau sychach, poethach yn cael effeithiau sylweddol ar iechyd a llesiant corfforol, meddyliol a chymdeithasol fel cynyddu salwch sy’n gysylltiedig â gwres, problemau iechyd meddwl o ganlyniad i brofi llifogydd, a tharfu ar wasanaethau hanfodol. 

Er y bydd newid hinsawdd yn effeithio ar iechyd y boblogaeth gyfan mewn rhyw ffordd, ceir grwpiau sy’n debygol o fod yn fwy agored i niwed o ran effeithiau negyddol ar iechyd a llesiant gan gynnwys oedolion hŷn, plant a phobl ifanc, pobl sydd â chyflyrau iechyd hirdymor, pobl mewn rhai grwpiau galwedigaeth (fel gweithwyr awyr agored), pobl sy’n byw ger yr arfordir, a’r rhai sy’n byw ar incwm isel. 

Myw o wybodaeth

Yn ôl i’r holl newyddion

Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun

Save

Save this article for later

Dod yn aelod

Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Yn ôl i'r brig