Bydd yr ‘her driphlyg’ yn effeithio ar ddiogelwch bwyd i bawb

Mae adroddiad newydd a gyhoeddwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn tynnu sylw at sut y gallai dylanwadau cyfunol Brexit, Coronafeirws a newid yn yr hinsawdd effeithio ar bob un ohonom drwy’r bwyd y gallwn ei brynu a’i fwyta.

Mae’r papur yn rhan o gyfres o adroddiadau sy’n tynnu sylw at sut y bydd yr ‘her driphlyg’ yn cael effeithiau uniongyrchol ac anuniongyrchol ar iechyd a llesiant y boblogaeth a sut y mae’r adeg hon yn ‘gyfle newydd’ i gryfhau negeseuon iechyd cyhoeddus ynghylch ymddygiad bwyd iach gyda’r proffil uwch y mae Coronafeirws wedi’i roi ar iechyd a llesiant i ni i gyd ac ailedrych ar gadwyni cyflenwi a’r system fwyd.

Meddai Liz Green, Ymgynghorydd Iechyd Cyhoeddus, Polisi ac Iechyd Rhyngwladol yn Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Mae diogelwch bwyd yn un o benderfynyddion pwysig iechyd a llesiant ar lefel poblogaeth genedlaethol, ond hefyd ar lefel unigol a chymunedol.

“Mae’r boblogaeth gyfan yn cael ei heffeithio gan ddiogelwch bwyd i ryw raddau ond bydd grwpiau agored i niwed o’r boblogaeth yn cael eu heffeithio’n negyddol gan gynnwys y rhai ar incwm isel, menywod, teuluoedd â phlant, ffermwyr, pysgotwyr a’r rhai sy’n byw mewn ardaloedd o amddifadedd.

“Mae’r Her Driphlyg eisoes wedi, a bydd yn parhau i gael, effeithiau mawr, amlweddog ac annheg ar grwpiau poblogaeth ledled Cymru sydd wedi tynnu sylw at yr angen i fynd i’r afael â’r mater hwn a’i archwilio’n fanylach.”

Yn ôl i’r holl newyddion

Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun

Save

Save this article for later

Dod yn aelod

Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Yn ôl i'r brig