“Llunio Lleoedd ar gyfer Llesiant yng Nghymru” yn ceisio mynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd

Mewn ymdrech ar y cyd i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd a gwella llesiant ledled Cymru, mae’r rhaglen “Llunio Lleoedd ar gyfer Llesiant yng Nghymru” wedi’i chyhoeddi.  

Dan arweiniad Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae’r fenter hon a ariennir gan y Sefydliad Iechyd yn ceisio cynorthwyo Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus i ddylanwadu ar ffactorau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol– blociau adeiladu iechyd a llesiant, drwy gymryd dull systemau sy’n cael ei lywio gan theori a thystiolaeth. 

Mae’r rhaglen yn ceisio cynorthwyo ymdrechion i leihau anghydraddoldebau iechyd, cyfrannu at y sylfaen dystiolaeth ar weithredu dulliau sy’n seiliedig ar systemau, a hwyluso rhannu dysgu ar draws Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus gwahanol yng Nghymru. 

Bydd y rhaglen yn canolbwyntio ar dair thema sy’n gyffredin ar draws Cynlluniau Llesiant: argyfwng hinsawdd a natur, tlodi ac anghydraddoldebau a llesiant y gymdogaeth. Ar gyfer pob thema, bydd grŵp dysgu yn cael ei sefydlu a bydd cyfranogwyr yn cael eu harwain drwy offer, dulliau a ffyrdd o weithio meddwl systemau, gyda’r nod o integreiddio’r dysgu i waith Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus a llywio’r gwaith o gyflawni Cynlluniau Llesiant. 

Yn ôl i’r holl newyddion

Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun

Save

Save this article for later

Dod yn aelod

Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Yn ôl i'r brig