Arolwg cyhoeddus yng Nghymru yn datgelu effeithiau niweidiol canfyddedig newid hinsawdd ar iechyd meddwl a chostau byw

Mae arolwg cyhoeddus cenedlaethol a gynhaliwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, Bangor Prifysgol wedi datgelu bod dros dri chwarter o drigolion Cymru yn credu y bydd newid hinsawdd yn niweidio iechyd meddwl ac yn cynyddu costau gwresogi cartref a phrynu bwyd.

Ymhlith pryderon mawr eraill newid hinsawdd mae llai o fynediad at wasanaethau iechyd a gofal, cynnydd yn lledaeniad clefydau heintus, a lefelau uwch o salwch corfforol.

Wedi’i gynnal yn 2021/22, cyfwelodd yr arolwg â 2,269 o drigolion ledled Cymru i gasglu barn ar newid hinsawdd ac iechyd.

Mae canfyddiadau allweddol eraill yn cynnwys:

  • Roedd 82 y cant o bobl yn weddol bryderus neu’n bryderus iawn am newid hinsawdd
  • Mae 61 y cant o’r farn bod newid hinsawdd eisoes yn cael effaith yng Nghymru, gan gynnwys:
    • Tywydd eithafol
    • Llifogydd
    • Erydu arfordirol
  • Roedd llawer o bobl yn cymryd rhan yn rheolaidd mewn ailgylchu (88 y cant) ond roedd llai yn cymryd rhan yn rheolaidd mewn gweithredoedd eraill sy’n ystyriol o’r hinsawdd fel lleihau’r defnydd o ynni gartref (44 y cant) neu geisio prynu cynnyrch lleol (38 y cant).
  • Byddai llawer yn ystyried gwneud mwy o weithredoedd sy’n ystyriol o’r hinsawdd yn y dyfodol, gan gynnwys:
    • byddai 59 y cant yn defnyddio brandiau/cwmnïau sy’n gwarchod yr amgylchedd (roedd 21 y cant arall bob amser yn gwneud hyn beth bynnag)
    • byddai 54 y cant yn osgoi defnyddio nwyddau/cynnyrch â phecynnu diangen (roedd 33 y cant arall bob amser yn gwneud hyn beth bynnag)
    • byddai 53 y cant yn defnyddio ffynonellau ynni gwyrdd i bweru eu cartref (roedd 20 y cant arall bob amser yn gwneud hyn beth bynnag). Fodd bynnag, roedd rhai opsiynau sy’n ystyriol o’r amgylchedd nad oeddent mor boblogaidd. Er enghraifft, ni fyddai 41 y cant yn barod i osgoi cig neu gynnyrch llaeth neu fwyta llai ohonynt.
  • Roedd rhai o’r ysgogwyr pwysicaf a nodwyd ar gyfer annog camau sy’n ystyriol o’r amgylchedd fel a ganlyn: gwybod y byddai camau gweithredu cadarnhaol yn helpu cenedlaethau’r dyfodol, gweld busnesau mawr yn gweithredu a gwybod y byddai ymddygiad sy’n ystyriol o’r hinsawdd yn gwella iechyd.

Meddai Sara Wood, ymchwilydd yn Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Datgelodd yr arolwg fod newid hinsawdd yn bryder gwirioneddol i bobl yng Nghymru a bod y rhan fwyaf yn awyddus i gymryd rhan mewn camau gweithredu cadarnhaol i leihau ei effeithiau, os rhoddir y cymhelliant cywir iddynt.

“Gall penderfyniadau polisi hefyd fynd yn bell i fynd i’r afael â hyn, gyda’r rhai poblogaidd yn cynnwys mynediad rhatach a mwy at ynni adnewyddadwy, gwella trafnidiaeth gyhoeddus a chyfreithiau i leihau’r defnydd o ddeunydd pacio plastig. Ond roedd pobl yn llai brwd ynghylch polisïau sy’n cynyddu prisiau tanwydd i geir, darparu mynediad rhatach a mwy at ynni niwclear, neu leihau trethi i gwmnïau sy’n gwarchod yr amgylchedd.”

Meddai’r Athro Karen Hughes, Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Roedd bron un o bob pedwar o bobl yn credu na allent gael unrhyw ddylanwad personol ar gyfyngu ar newid hinsawdd, ond mae camau gweithredu unigol i gyd yn cyfrif. Mae llawer o ffyrdd y gall pobl wneud newidiadau i’w bywydau er mwyn diogelu’r blaned, fel lleihau’r defnydd o geir a theithio awyr, bwyta bwydydd lleol a thymhorol, prynu nwyddau ail law neu drwsio eitemau yn hytrach na phrynu’n newydd, ac osgoi prynu cynnyrch â gwastraff diangen.”

Cafodd ‘Newid yn yr Hinsawdd ac Iechyd yng Nghymru: Barn y cyhoedd’ ei gynnal ar ran Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Yn ôl i’r holl newyddion

Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun

Save

Save this article for later


Dod yn aelod

Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Yn ôl i'r brig