Iechyd Cyhoeddus Cymru yn lansio pecyn cymorth i gynnal Gweithdai Amgylchedd Iach

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi lansio pecyn cymorth newydd, am ddim er mwyn helpu sefydliadau partner i gynnal Gweithdai Amgylchedd Iach ledled Cymru.

Bydd yr adnodd ar-lein hwylus yn rhoi’r offer sydd ei angen ar dimau i gynnal sesiynau a fydd yn helpu’r rhai sy’n bresennol i ystyried a lleihau eu heffeithiau negyddol ar yr amgylchedd, a chynyddu’r gweithgareddau hynny sy’n cael effaith gadarnhaol fel helpu natur, lleihau gwastraff ac allyriadau carbon.

Mae’r pecyn cymorth a’r gweithdy ar-lein wedi’u datblygu i gyfrannu at nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, y mae’n ofynnol yn gyfreithiol i bob corff cyhoeddus yng Nghymru weithio tuag atynt.

Yn ôl i’r holl newyddion

Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun

Save

Save this article for later


Dod yn aelod

Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Yn ôl i'r brig