Gwaharddiad ar blastig untro yn dod i rym wrth i Lywodraeth Cymru geisio cyrraedd sero net

Mae nifer o gynhyrchion plastig untro wedi cael eu gwahardd rhag cael eu cyflenwi yng Nghymru. Mae hyn yn dilyn ymrwymiad gan Lywodraeth Cymru i ‘ymgorffori ein hymateb i’r argyfwng hinsawdd a natur ym mhopeth a wnawn’.

Pwrpas y ddeddf newydd yw lleihau’r llif o lygredd plastig sy’n llifo i’n hamgylchedd trwy wahardd rhai cynhyrchion plastig untro rhag cael eu cyflenwi. 

Mae’r eitemau canlynol bellach wedi’u gwahardd rhag cael eu gwerthu ledled y wlad:

  • Platiau plastig untro
  • Cwpanau plastig untro
  • Troellwyr diodydd plastig untro  
  • Cwpanau wedi’u gwneud o bolystyren allwthiedig ymestynedig neu ewynnog
  • Cynwysyddion bwyd tecawê wedi’u gwneud o bolystyren allwthiedig ymestynedig neu ewynnog
  • Ffyn balŵn plastig untro
  • Ffyn cotwm coesyn plastig untro
  • Gwellt yfed plastig untro (eithriadau i’r rhai sydd eu hangen i fwyta ac yfed yn ddiogel ac yn annibynnol)

Myw o wybodaeth

Yn ôl i’r holl newyddion

Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun

Save

Save this article for later


Dod yn aelod

Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Yn ôl i'r brig