Ffenestri ymgeisio newydd ar gyfer Cronfa Cymru Actif

Bydd Cronfa Cymru Actif Chwaraeon Cymru yn cael ei gweithredu’n wahanol yn ystod 2025-26, gyda thair ‘ffenest’ ar gyfer gwneud ceisiadau.

Gan ddefnyddio arian y Loteri Genedlaethol, mae Cronfa Cymru Actif yn cynnig grantiau rhwng £300 a £50,000 sy’n galluogi clybiau a sefydliadau chwaraeon i brynu offer, gwella eu cyfleusterau a chefnogi datblygiad gwirfoddolwyr a hyfforddwyr fel eu bod yn gallu cefnogi mwy o bobl i fod yn actif.

Pan fydd Cronfa Cymru Actif yn agor ar gyfer y flwyddyn ariannol newydd ar ddydd Mercher 2 Ebrill, bydd gan glybiau a sefydliadau tan ddydd Mercher 4 Mehefin i gyflwyno eu ceisiadau. Bydd y gronfa wedyn yn cael saib nes bydd yr ail ffenest ymgeisio yn agor rhwng dydd Mercher 9 Gorffennaf a dydd Mercher 17 Medi, tra bydd y drydedd ffenest ymgeisio, sef y cyfnod olaf ar gyfer 2025-26, yn agor rhwng dydd Mercher 5 Tachwedd a dydd Mercher 14 Ionawr.

Gyda miliynau o bunnoedd yn cael eu dyfarnu drwy Gronfa Cymru Actif bob blwyddyn, mae Chwaraeon Cymru yn cyflwyno’r ffenestri ymgeisio newydd i wneud yn siŵr bod pob ymgeisydd yn cael y safonau uchaf o wasanaeth cwsmeriaid. Bydd y ffenestri hefyd yn rhoi mwy o amser i Chwaraeon Cymru ymgynghori â chyrff rheoli chwaraeon ac awdurdodau lleol i sicrhau bod y ceisiadau’n cael eu blaenoriaethu ar sail yr angen mwyaf.

Yn ôl i’r holl newyddion

Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun

Save

Save this article for later


Dod yn aelod

Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Yn ôl i'r brig