Agorwyd sgwrs genedlaethol i helpu pobl yng Nghymru i flaenoriaethu eu lles meddwl

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru, ochr yn ochr ag amrywiaeth o bartneriaid, wedi agor sgwrs genedlaethol ar les meddwl. Nod rhaglen newydd Hapus yw ysbrydoli pobl yng Nghymru i gymryd rhan mewn gweithgareddau sy’n amddiffyn a gwella lles meddwl. 

Mae canfyddiadau o Arolwg Cenedlaethol diweddaraf Cymru (2022/23) yn dangos bod lles meddwl wedi dirywio dros y blynyddoedd diwethaf, o sgôr cyfartalog o 51 ar gyfer oedolion yn 2018/19 i 48 yn 2022/23 (fel y’i mesurwyd gan Raddfa Lles Meddwl Warwick-Edinburgh). Mae Hapus yn darparu gwybodaeth ac adnoddau i helpu pobl i gymryd camau i wella eu lles meddwl, ac yn annog pobl i rannu’r hyn sy’n bwysig ar gyfer eu lles meddwl. 

Mae lles meddwl yn ymwneud â sut rydym yn meddwl, yn teimlo ac yn ymdopi â bywyd ar adeg benodol. Gallwn ddweud bod gennym les meddwl da pan fyddwn yn “teimlo’n dda ac yn gweithredu’n dda”, pa bynnag ffordd y mae hynny’n edrych i ni fel unigolion. Mae’n cael ei ddylanwadu gan brofiadau trwy gydol ein bywydau, gan gynnwys y rhai o blentyndod cynnar, yn ogystal â’n perthnasoedd â theulu, ffrindiau, a phartneriaid. Mae hefyd yn cael ei ddylanwadu gan y cymunedau ehangach yr ydym yn rhan ohonynt, cyfleoedd i ddylanwadu ar bethau sy’n digwydd yn ein bywydau ein hunain, a chael ein hanghenion sylfaenol wedi’u diwallu.   

Mae lles meddwl da yn rhan hanfodol o’n hiechyd da yn gyffredinol. Pan fyddwn yn teimlo’n dda ac yn gweithredu’n dda, rydym yn fwy tebygol o ofalu am ein hiechyd corfforol. Rydym hefyd yn llai tebygol o gymryd rhan mewn ymddygiad sy’n niweidio iechyd fel yfed gormod o alcohol neu ysmygu. 

Myw o wybodaeth

Yn ôl i’r holl newyddion

Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun

Save

Save this article for later


Dod yn aelod

Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Yn ôl i'r brig