£65m i sicrhau fod gan bawb ‘le i’w alw’n gartref’
Bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio i ariannu’r Rhaglen Gyfalaf ar gyfer Llety Dros Dro (TACP) sy’n cefnogi amrywiaeth eang o brosiectau gan awdurdodau lleol a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig i greu capasiti tai ychwanegol sydd wir ei angen ledled Cymru.
Bydd y rhaglen yn dod â mwy na 1,000 o gartrefi ychwanegol dros y 18 mis nesaf. Bydd bron i hanner yn gartrefi hirdymor neu barhaol gyda’r lleill yn cynnig cartrefi o ansawdd da sy’n addas i’w defnyddio gan unigolion a theuluoedd am nifer o flynyddoedd.
Mae’r prosiectau’n cynnwys defnyddio cartrefi Dulliau Adeiladu Modern o safon uchel, adnewyddu ac ad-drefnu adeiladau presennol.
Dod yn aelod
Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.