Public Health England yn ymchwilio i’r cysylltiad rhwng oerfel a Covid-19

Mae Public Health England (PHE) wedi cyhoeddi brîff ar Faterion Iechyd sy’n taflu golwg ar orgyffwrdd rhwng amodau oer a covid.

Gweler: https://www.gov.uk/government/publications/health-matters-cold-weather-and-covid-19/health-matters-cold-weather-and-covid-19.

Yn y ddogfen, maent yn amlygu pam y dylai taclo cartrefi oer fod yn flaenoriaeth yng nghyd-destun y pandemig covid, ynghyd â rhai camau allweddol ar draws Awdurdodau Lleol, comisiynwyr iechyd a gofal cymdeithasol, Cyfarwyddwyr Iechyd Cyhoeddus, y sectorau cymunedol a gwirfoddol ac ar y lefel genedlaethol. Er bod yr argymhellion wedi’u llunio at gyd-destun Lloegr, gallai’r prif ganfyddiadau helpu wrth atal niwed yng Nghymru, yn enwedig mewn perthynas â’r rhai sydd fwyaf agored i niwed o ganlyniad i fyw mewn cartref oer y gaeaf yma.

Mae’r adroddiad yn nodi bod y canlynol ymysg rhai o’r grwpiau sydd fwyaf agored i niwed o ganlyniad i dywydd oer: pobl hŷn, pobl sydd â chyflyrau meddygol cronig sydd eisoes yn bodoli megis cyflyrau cardiofasgwlaidd a resbiradol, yn benodol clefyd rhwystrol cronig y llwybr anadlu (COPD) ac asthma, a chlefyd y siwgr, pobl yr asesir eu bod mewn perygl o, neu sydd wedi, cwympo dro ar ôl tro, pobl sy’n byw mewn aelwydydd lle mae tlodi tanwydd a phobl sy’n profi digartrefedd neu’n cysgu allan.

Mae’r ddogfen yn mynd ymlaen i nodi’n ychwanegol bod llawer o’r grwpiau hyn hefyd yn wynebu risg gynyddol o salwch difrifol o COVID-19, yn ogystal â chlefydau eraill y gaeaf fel y ffliw. Gan hynny, mae’n bwysicach nag erioed bod y bobl sydd fwyaf agored i niwed yn cael eu cefnogi eleni.

Yn ôl i’r holl newyddion

Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun

Save

Save this article for later

Dod yn aelod

Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Yn ôl i'r brig