Hwb gwerth sawl miliwn i gefnogi addewidion ar ôl COVID-19

Bydd Cymru yn adeiladu dyfodol newydd yn dilyn pandemig y coronafeirws, gan ddarparu £320m ar gyfer gwaith ail-greu uniongyrchol.

Yn ôl Jeremy Miles, y Cwnsler Cyffredinol, er bod y coronafeirws yn dal i fod gyda ni, rhaid i ran o’n hymateb ymwneud ag atal niwed tymor hwy yn sgil y feirws, yn arbennig i bobl iau a allai gael eu taro galetaf.

Mae Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi Ail-greu ar ôl COVID-19: Yr Heriau a’r Blaenoriaethau – sy’n nodi wyth maes blaenoriaeth, gan gynnwys camau gweithredu tymor byr a thymor hir i helpu i sefydlogi Cymru wrth inni barhau i fyw gyda’r feirws a sicrhau ein bod yn barod i ailgodi pan fydd brechlyn neu feddyginiaeth wedi ei ganfod.

Lluniwyd y meysydd blaenoriaeth yn dilyn sgwrs eang gyda’r cyhoedd a sectorau allweddol ledled Cymru. Cafwyd dros 2,000 o ymatebion i’n sgwrs genedlaethol #CymruEinDyfodol.

Yn ôl i’r holl newyddion

Dod yn aelod

Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Yn ôl i'r brig