Gallai tai anfforddiadwy niweidio iechyd a llesiant yng Nghymru

Mae angen gwneud mwy i sicrhau bod cartrefi’n fforddiadwy, er mwyn diogelu iechyd a llesiant pawb yng Nghymru. Mewn adroddiad newydd, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn tynnu sylw at sut y mae’r argyfwng costau byw yn gwneud cartrefi’n llai fforddiadwy i rai pobl a sut y mae hyn yn effeithio ar eu hiechyd.  

Mae peidio â gallu fforddio taliadau rhent neu forgais yn cael effeithiau negyddol ar iechyd meddwl, ac mae biliau ynni uchel yn golygu bod pobl yn fwy tebygol o fyw mewn cartrefi oer a llaith gan arwain at risg uwch o drawiad ar y galon, strôc, arthritis a chyflyrau anadlol.  

Yng Nghymru ar hyn o bryd:  

Nid oes digon o dai cymdeithasol i ateb y galw;  

Gall pobl sy’n prynu tŷ ddisgwyl iddo gostio dros chwe gwaith eu henillion;  

Mae prisiau rhentu preifat wedi cynyddu’n sylweddol, ac mae cyfraddau Lwfans Tai Lleol wedi parhau wedi’u rhewi rhwng 2020-2023; ac 

Mae cyfraddau llog cynyddol wedi ychwanegu cannoedd o bunnoedd at ad-daliadau morgais misol 

Mae’r bwlch rhwng y rhai sy’n gallu fforddio eu tai a’r rhai na allant fforddio eu tai wedi cynyddu dros y degawd diwethaf, sy’n creu’r risg o ddal y rhai sy’n waeth eu byd mewn tai gwael neu anniogel neu o gael eu gwneud yn ddigartref, gan waethygu eu hiechyd a’u llesiant ymhellach.  

Mae’r dystiolaeth yn awgrymu bod rhentwyr a phobl anabl wedi cael eu taro’n galetach gan effeithiau’r argyfwng costau byw ar fforddiadwyedd tai, ac mae pobl hŷn, plant a babanod yn wynebu risg arbennig o uchel o effeithiau negyddol byw mewn cartrefi oer a llaith. 

Daw problem bosibl arall o fethu fforddio gwelliannau effeithlonrwydd ynni i gartrefi. Gall hyn gloi pobl mewn biliau ynni anfforddiadwy, a golygu bod aelwydydd yn defnyddio mwy o ynni ar adeg pan mae Cymru yn ceisio lleihau’r defnydd o ynni er mwyn helpu i fynd i’r afael â newid hinsawdd. 

Wrth edrych i’r dyfodol, gallai addasiadau sydd eu hangen i liniaru effeithiau hinsawdd sy’n newid (fel gorgynhesu), roi beichiau ariannol na ellir eu rheoli ar aelwydydd hefyd os na chânt eu rheoli’n deg. Gall newidiadau i feintiau aelwydydd (gan gynnwys cynnydd mewn aelwydydd un person) a’r ffordd y mae pobl yn defnyddio eu cartref (er enghraifft, oherwydd mwy o weithio gartref) hefyd roi rhagor o bwysau ar y galw am dai, mewn system lle mae’r galw eisoes yn fwy na’r cyflenwad. Bydd hyn yn ei gwneud yn anoddach fforddio cartref o ansawdd da. 

Yn ôl i’r holl newyddion

Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun

Save

Save this article for later


Dod yn aelod

Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Yn ôl i'r brig