Rhoi Tegwch Iechyd wrth wraidd adfer ar ôl Coronafeirws ar gyfer adeiladu dyfodol cynaliadwy i Gymru

Mae’r adroddiad hwn yn galw am fwy o bwyslais ar degwch iechyd – sicrhau bod pawb yn cael cyfle cyfartal i fod yn iach – mewn ymateb i’r Coronafeirws ac adfer ohono.

Mae’r adroddiad wedi’i baratoi gan Ganolfan Gydweithredol Sefydliad Iechyd y Byd yn Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae’n rhan o fenter fyd-eang – a arweinir ar y cyd gan Sefydliad Iechyd y Byd, Llywodraeth Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru – gan roi Cymru ar flaen y gad fel gwlad sy’n hyrwyddo, yn ymrwymedig i fynd i’r afael ag annhegwch ym maes iechyd.

Mae’r adroddiad agoriadol hwn yn canolbwyntio ar effeithiau ehangach y pandemig, nad ydynt yn amlwg ar unwaith, ar amrywiaeth o faterion gan gynnwys:

  • Tlodi, amddifadedd ac allgáu cymdeithasol
  • Diweithdra, addysg a’r gagendor digidol
  • Amodau tai a gwaith niweidiol, a thrais a throseddu

Mae hefyd yn tynnu sylw at yr effaith anghymesur y mae coronafeirws wedi’i chael, ac yn ei chael, ar grwpiau penodol fel plant a phobl ifanc, menywod, gweithwyr allweddol a lleiafrifoedd ethnig. Er enghraifft, mae pobl ifanc yn nodi eu bod yn poeni am golli eu swydd neu fethu dod o hyd i swydd; ac mae’r gagendor addysgol wedi parhau a chynyddu, yn enwedig i’r rhai mwyaf difreintiedig yn ein cymdeithas.

Yn ôl i’r holl newyddion

Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun

Save

Save this article for later

Dod yn aelod

Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Yn ôl i'r brig