Rhoi tegwch iechyd wrth wraidd adfer ar ôl Coronafeirws ar gyfer adeiladu dyfodol cynaliadwy i Gymru

Mae Canolfan Gydweithredol Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) yn Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi paratoi cyfres o animeiddiadau i dynnu sylw at ei gwaith hanfodol wrth fynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd yng Nghymru.

Yn rhan o fenter fyd-eang, a arweinir ar y cyd gan Sefydliad Iechyd y Byd, Llywodraeth Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae’r fenter Adroddiad Statws Tegwch Iechyd y Byd (WHESRi) yn rhoi Cymru ar flaen y gad o ran tegwch iechyd er mwyn sicrhau bod pawb yn cael cyfle cyfartal i fod yn iach, ac mewn ymateb i bandemig y Coronafeirws ac adfer yn effeithiol ohono.

Mae’r animeiddiadau’n dangos prif ganfyddiadau’r adroddiad cyntaf a gyhoeddwyd gan y tîm, ac yn canolbwyntio ar effeithiau ehangach, llai gweladwy’r pandemig ar amrywiaeth o faterion gan gynnwys:

  • Tlodi, amddifadedd ac allgáu cymdeithasol
  • Diweithdra, addysg a’r gagendor digidol
  • Amodau tai a gwaith niweidiol, a thrais a throseddu

Mae hefyd yn tynnu sylw at yr effaith anghymesur y mae coronafeirws wedi’i chael, ac yn ei chael, ar grwpiau penodol fel plant a phobl ifanc, menywod, gweithwyr allweddol a lleiafrifoedd ethnig. Er enghraifft, mae pobl ifanc yn nodi eu bod yn poeni am golli eu swydd neu fethu dod o hyd i swydd; ac mae’r gagendor addysgol wedi parhau a chynyddu, yn enwedig i’r rhai mwyaf difreintiedig yn ein cymdeithas.

Yn ôl i’r holl newyddion

Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun

Save

Save this article for later

Dod yn aelod

Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Yn ôl i'r brig