Rhyddhau astudiaethau achos i ddangos sut y gall sefydliadau uno er mwyn ymateb i gostau byw

Mae’r grŵp Adeiladu Cymru Iachach, sef partneriaeth sy’n gweithio gyda’i gilydd i hyrwyddo mesurau atal ar draws holl feysydd iechyd, wedi rhyddhau astudiaethau achos sydd wedi’u cynllunio i ddangos sut y mae sefydliadau wedi gallu gwneud gwahaniaeth yn eu cymunedau. 

Mae’r astudiaethau achos yn ymwneud yn benodol â lliniaru effaith yr argyfwng costau byw, ac maent yn dangos y gwersi o weithgarwch sydd eisoes wedi digwydd. 

Mae’r astudiaethau achos yn cynnwys prosiect a gynhaliwyd gan Gynghrair yr Ysbyty Plant sydd wedi’i gynllunio i leihau effaith tlodi bwyd teuluol yn ystod cyfnodau mewn ysbyty.  Nodwyd bod rhai teuluoedd â phlant y mae angen iddynt dreulio cyfnod hirdymor yn yr ysbyty yn cael trafferthion ariannol oherwydd bod rhaid iddynt gymryd llawer o amser i ffwrdd o’r gwaith. 

Creodd y prosiect gynlluniau talebau bwyd a darparu prydau bwyd ar draws amrywiaeth o safleoedd ysbytai, a oedd yn galluogi staff clinigol i ddarparu prydau bwyd am ddim neu â chymhorthdal i rieni sydd mewn angen ar y safle, gan eu helpu i arbed costau. 

Nod prosiect arall ar Ynys Môn yw helpu i fynd i’r afael â thlodi bwyd drwy ddarparu prydau parod am ddim, o ansawdd da, a gynhyrchir yn lleol i deuluoedd mewn angen drwy rewgelloedd mewn deg hyb cymunedol ar draws yr ynys – gan ganolbwyntio ar ardaloedd gwledig difreintiedig. Roedd arweinwyr cymunedol sydd ynghlwm wrth bob hyb wedi helpu i nodi pobl a allai gael budd o’r prosiect a byddent yn cydlynu danfoniadau personol os oedd hynny’n bosibl. 

Roedd y prosiect mewn ymateb i’r ffaith bod tlodi bwyd yn fater lleol hysbys, a defnyddiwyd prydau microdon i oresgyn materion nodweddiadol o ran dosbarthu bwyd, yn ogystal â diffyg gwybodaeth am goginio. 

Mae’r gyfres o naw astudiaeth achos wahanol yn cwmpasu’r prif themâu a amlygir yn uwchgynhadledd Costau Byw Cymru Gyfan ym mis Mawrth 2023 – bwyd, ynni a thai, incwm a dyledion, iechyd meddwl a llesiant ac iechyd a gofal. 

Yn ôl i’r holl newyddion

Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun

Save

Save this article for later

Dod yn aelod

Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Yn ôl i'r brig