Mae’r pandemig wedi amlygu’r angen am strategaethau hirdymor i sicrhau tai saff, diogel i bawb

Mae Asesiad o’r Effaith ar Iechyd newydd a gynhaliwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn tynnu sylw at sut y mae pandemig y Coronafeirws wedi dangos bod cael cartref saff, diogel yn hanfodol ar gyfer ein hiechyd, llesiant a thegwch, a’r hyn sydd angen ei wneud i sicrhau mai dyma’r realiti i’r rhan fwyaf o bobl.

Meddai Liz Green, Ymgynghorydd Iechyd Cyhoeddus, Polisi ac Iechyd Rhyngwladol yn Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Mae pandemig COVID-19, a mesurau i leihau trosglwyddo’r feirws, wedi cael llawer o effeithiau eang ar boblogaeth Cymru, ac wedi arwain at lawer o bobl yn treulio mwy o amser yn eu cartrefi, gan dynnu sylw at bwysigrwydd tai o ansawdd da, fforddiadwy a diogel.

“Mae’r angen am ddiogelwch mewn perthynas â chael a chadw cartref a chael eich amgylchynu gan amgylchedd cartref diogel a chyson, ac effaith hyn ar iechyd a llesiant corfforol a meddyliol wedi’i gydnabod ers tro. Yn ystod cyfnodau o ansicrwydd, fel yn ystod pandemig COVID-19, gall cartref roi sylfaen ddiogel a sefydlog i unigolion ac aelwydydd er mwyn eu helpu i fyw a gweithio drwy’r pandemig a’i effeithiau ac adfer ohono yn y pen draw.

“Mae rhaglenni cymorth lles a thai cenedlaethol wedi’u cyflwyno mewn ymateb i’r pandemig ac maent yn cynnwys amrywiaeth eang o fesurau i gefnogi perchnogion cartrefi a thenantiaid ac atal digartrefedd, ond mae’r rhain bellach yn dod i ben.

“Gall y dystiolaeth yn yr adroddiad hwn gynorthwyo’r rhai sy’n llunio polisïau ac sy’n gwneud penderfyniadau a’r trydydd sector ehangach wrth ystyried effaith y pandemig ar dai ac ansicrwydd tai, er mwyn lleihau anghydraddoldebau posibl ac effeithiau negyddol, a sicrhau’r cyfleoedd mwyaf posibl ar gyfer iechyd a llesiant cadarnhaol.”

Yn ôl i’r holl newyddion

Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun

Save

Save this article for later


Dod yn aelod

Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Yn ôl i'r brig