£10 miliwn yn ychwanegol i ddarparu hyd yn oed mwy o dai fforddiadwy

Mae £10 miliwn ychwanegol ar gael gan Lywodraeth Cymru i helpu i ddechrau datblygu cynlluniau tai fforddiadwy newydd ledled Cymru.

Mae’r cyllid ychwanegol yn cyfrannu at becyn ehangach o fuddsoddiad a sicrhawyd gyda’r nod o ddarparu mwy o gartrefi i bobl ledled Cymru, sy’n flaenoriaeth allweddol i Lywodraeth Cymru.

Mae 16 o gynlluniau sy’n barod i ddechrau gweithio wedi’u nodi a bydd y buddsoddiad hwn yn arwain at ddarparu 238 o gartrefi newydd.

Bydd y cyllid yn cael ei ddefnyddio i gaffael eiddo a thir lle bydd cartrefi’n cael eu datblygu a’u cwblhau.

Bydd £30 miliwn arall o’r Grant Tai Cymdeithasol yng Nghyllideb 2025-26 hefyd yn cefnogi’r cynlluniau.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio, Jayne Bryant:

“Rwy’n falch iawn ein bod wedi sicrhau’r cyllid ychwanegol hwn yn ystod y flwyddyn i fuddsoddi mewn tai fforddiadwy o ansawdd da, gan ddarparu cyfleoedd i unigolion a theuluoedd.

Rydyn ni’n gwybod bod buddsoddi mewn tai cymdeithasol yn lleihau tlodi, yn gwella iechyd ac yn helpu i yrru twf economaidd ac rwy’n cydnabod nid yn unig yr angen am fwy o gartrefi heddiw ac yn y dyfodol hefyd.

Dyna pam rwyf hefyd yn sicrhau bod y gyllideb ychwanegol ar gyfer 2025-26 ar gael i’w defnyddio ar draws y Grant Tai Cymdeithasol a’r Rhaglen Gyfalaf ar gyfer Llety Dros Dro (TACP).”

Bydd hyn yn cael ei ddefnyddio i gefnogi’r gwaith o ddarparu cartrefi ychwanegol, gan gyfrannu at darged Llywodraeth Cymru o 20,000 o gartrefi cymdeithasol carbon isel newydd i’w rhentu yn y sector cymdeithasol yn ystod tymor y Senedd hon. Bydd hefyd yn cefnogi cartrefi a gymeradwywyd ac a ddechreuwyd yn 2025-26 ac a gwblhawyd yn nhymor nesaf y Senedd.

Aeth Ysgrifennydd y Cabinet yn ei blaen:

“Yn dilyn llwyddiant ysgubol TACP, mae’n bleser gennyf gyhoeddi’n ffurfiol y bydd TACP 2025-26 yn ailagor gyda dyraniad dangosol o £100 miliwn.

Rydym wedi gwrando ar adborth ar y tair blynedd gyntaf o’r gwaith cyflawni a bwriad y cyhoeddiad cynnar hwn yw rhoi gwybod ymlaen llaw i’r sector y bydd y rhaglen yn ailagor ar gyfer ceisiadau yn gynnar yn y flwyddyn ariannol newydd.”

Yn ôl i’r holl newyddion

Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun

Save

Save this article for later


Dod yn aelod

Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Yn ôl i'r brig