Ymgyrch Iechyd Meddwl Childline

Mae’r NSPCC wedi lansio ymgyrch newydd Childline, ‘We All Feel It’, sydd yn cynorthwyo pobl ifanc, gwrywaidd yn arbennig, sydd yn cael anhawster yn estyn allan am gymorth iechyd meddwl.

Mae’r ymgyrch yn annog pobl ifanc i ddefnyddio adnoddau Childline ar-lein i ganfod ffyrdd newydd o ymdopi â meddyliau a theimladau, ac i gysylltu â Childline i siarad am yr hyn y maent yn mynd drwyddo.

Mae hefyd yn cynnwys fideo byr yn dangos yr emosiynau y mae dynion ifanc yn eu teimlo yn eu bywydau bob dydd ac yn darparu dolenni i ganllawiau a chymorth perthnasol ar wefan Childline.

Yn ôl i’r holl newyddion

Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun

Save

Save this article for later


Dod yn aelod

Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Yn ôl i'r brig