Y Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol – cynyddu cyfleoedd iechyd a lles i’r eithaf ar gyfer pobl a chymunedau sy’n profi anfantais economaidd-gymdeithasol yng Nghymru

Daeth y Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol i rym yng Nghymru ar 31 Mawrth 2021 a’i nod yw darparu canlyniadau gwell i’r rhai sy’n profi anfantais economaidd-gymdeithasol mewn meysydd fel iechyd, disgwyliad oes a chyrhaeddiad addysgol. Er bod cyrff cyhoeddus wedi croesawu’r Ddyletswydd, mae gwaith ymchwil gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn awgrymu nad yw wedi cael ei gweithredu’n llawn a bod angen mwy o gymorth. Mae’r Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol yn gyfle i wneud gwahaniaeth i iechyd a lles pobl sy’n profi anfantais economaidd-gymdeithasol a hyrwyddo cydraddoldeb.

Roedd y weminar hon yn archwilio gweithredu’r Ddyletswydd yn ymarferol ac yn rhoi arweiniad ychwanegol ar arweinyddiaeth systemau, defnyddio data’n effeithiol, ymgysylltu’n ystyrlon a gwybod sut mae sefydliadau wedi gwneud gwahaniaeth. Esboniodd y weminar sut mae anghydraddoldebau o ran canlyniad wedi’u cysylltu ag anfantais economaidd-gymdeithasol, gyda phwyslais cryf ar iechyd.

Deilliannau Dysgu:

  • Deall beth yw’r Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol a sut gall sefydliad ei rhoi ar waith
  • Deall y berthynas rhwng anfantais economaidd-gymdeithasol ac anghydraddoldebau o ran canlyniad
  • Cydnabod y Ddyletswydd fel cyfle pwysig i leihau anghydraddoldebau iechyd ac anghydraddoldebau eraill o ran canlyniad

Siaradwyr:
Chair – Jo Peden, Ymgynghorydd Iechyd y Cyhoedd, Iechyd Cyhoeddus Cymru
Lewis Brace – Swyddog Ymchwil Polisi Iechyd y Cyhoedd, Iechyd Cyhoeddus Cymru
Caroline McDonnell – Uwch Ymarferwr Iechyd Cyhoeddus, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan
Lee Parry-Williams – Uwch Ymarferwr Iechyd Cyhoeddus, Iechyd Cyhoeddus Cymru
Helen Flynn – Pennaeth Polisi, Ymchwil ac Ymgyrchoedd, Just Fair

Dyddiad

Mehefin 2023

Tanysgrifio i’n sianel YouTube

Tanysgrifio i’n sianel YouTube i gael eich hysbysu am y fideos diweddaraf gennym ni.



Cyfrannu at ein fideos

A oes gennych adnodd yr hoffech ei rannu? Dewch yn aelod a chyfrannu at ein rhwydwaith.

Nodi problem

Rydym yn gwneud ein gorau i gadw’r dudalen hon mor gyfredol â phosibl.
Os byddwch yn canfod bod unrhyw wybodaeth yn arwain at ddolen farw neu os hoffech roi adborth ar y dudalen hon, cysylltwch â ni isod.

Yn ôl i'r brig