Dosbarth Meistr Gwerth Cymdeithasol: Mesur gwerth iechyd cyhoeddus

Mewn cyfnod pan mae adnoddau’n brin, yn enwedig ym maes iechyd y boblogaeth ac atal, mae cydweithredu rhwng penderfynwyr, deiliaid cyllidebau, ymarferwyr ac ymchwilwyr yn hanfodol. Dylai’r ymdrech gyfunol hon anelu at wneud y mwyaf o’r gwerth (cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol) ehangach sy’n cael ei greu o wariant ar, a buddsoddi mewn, gwasanaethau iechyd (cyhoeddus) ac ymyriadau.

Bwriad y Dosbarth Meistr hwn yw gwella dealltwriaeth o werth cyfannol ehangach iechyd cyhoeddus trwy archwilio cysyniad Gwerth Cymdeithasol. Mae’n arfogi cyfranogwyr y wybodaeth a’r adnoddau sylfaenol i ystyried gwerth ehangach eu meysydd gwasanaeth o fewn iechyd cyhoeddus.

Deilliannau dysgu:

  • Hyrwyddo pwysigrwydd dal a mesur gwerth ehangach iechyd cyhoeddus
  • Gwella dealltwriaeth o pam mae gwerth a Gwerth Cymdeithasol yn bwysig trwy gyflwyno’r cyd-destun strategol a pholisi yng Nghymru a’r tu hwnt
  • Arddangos ffyrdd ymarferol o gofnodi Gwerth Cymdeithasol ymyriadau a gwasanaethau iechyd cyhoeddus

Hwylusydd:
Mariana Dyakova – Ymgynghorydd Iechyd Cyhoeddus, Arweinydd Iechyd Rhyngwladol a Dirprwy Gyfarwyddwr, Polisi ac Iechyd Rhyngwladol, Canolfan Gydweithredol Sefydliad Iechyd y Byd, Iechyd Cyhoeddus Cymru

Siaradwyr:
Kathryn Ashton – Rheolwr Rhaglen (Gwerth Cymdeithasol ac Adenillion o Fuddsoddi), Canolfan Gydweithredol Sefydliad Iechyd y Byd, Iechyd Cyhoeddus Cymru

Anna Stielke – Swyddog Datblygu Tystiolaeth Ryngwladol (Gwerth ac Effaith), Canolfan Gydweithredol Sefydliad Iechyd y Byd, Iechyd Cyhoeddus Cymru

Oliver Kempton – Partner a Chyd-sylfaenydd, Envoy Partnership

Dyddiad

Ionawr 2024

Tanysgrifio i’n sianel YouTube

Tanysgrifio i’n sianel YouTube i gael eich hysbysu am y fideos diweddaraf gennym ni.



Cyfrannu at ein fideos

A oes gennych adnodd yr hoffech ei rannu? Dewch yn aelod a chyfrannu at ein rhwydwaith.

Nodi problem

Rydym yn gwneud ein gorau i gadw’r dudalen hon mor gyfredol â phosibl.
Os byddwch yn canfod bod unrhyw wybodaeth yn arwain at ddolen farw neu os hoffech roi adborth ar y dudalen hon, cysylltwch â ni isod.

Yn ôl i'r brig