Deall a mynd i’r afael â’r effaith a gaiff defnyddio e-sigaréts gan blant a phobl ifanc yng Nghymru i iechyd cyhoeddus
Mae fepio wedi cynyddu ymhlith poblogaeth Cymru dros y blynyddoedd diwethaf, gydag 8% o’r boblogaeth oedolion yn dweud eu bod yn eu defnyddio nhw ar hyn o bryd a bod 5% o bobl ifanc 11-16 oed yn defnyddio feps yn wythnosol, o leiaf. Mae feps yn llai niweidiol o lawer na sigaréts ac yn ddull mwyfwy poblogaidd o roi’r gorau i ysmygu. Fodd bynnag, wrth i niferoedd cynyddol o bobl sydd erioed wedi ysmygu ddechrau defnyddio feps, beth yw risgiau, niwed a phroblemau defnyddio feps ymhlith plant a phobl ifanc yng Nghymru? A beth all – a beth ddylai – iechyd cyhoeddus a sefydliadau sy’n gweithio gyda phobl ifanc fod yn ei wneud?
Y gweminar hwn:
- Wedi rhoi diweddariad gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ar epidemioleg a niwed fepio ymhlith plant ac oedolion, a’r mesurau sydd ar waith ar hyn o bryd i fynd i’r afael â’r broblem, yn enwedig gyda phobl ifanc
- Bu Ash Cymru yn trafod eu harolwg anwedd cenedlaethol a hefyd yn trafod y gwaith maen nhw wedi bod yn ei wneud gydag ysgolion uwchradd i addysgu am anwedd trwy weithdai ac adnoddau amrywiol.
- Wedi darparu trosolwg o sut mae prosiectau mewn gwahanol rannau o Gymru yn mynd i’r afael â’r broblem yn sgil ceisiadau gan leoliadau addysg, a sut maen nhw’n cynorthwyo pobl ifanc i ennill y wybodaeth, y sgiliau a’r cyfleoedd sydd eu hangen arnynt i wneud dewisiadau gwybodus.
Dyddiad
Ionawr 2024
Cyfrannu at ein fideos
A oes gennych adnodd yr hoffech ei rannu? Dewch yn aelod a chyfrannu at ein rhwydwaith.