Gwella gweithio mewn partneriaeth mewn Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus

Mae cydweithredu â phartneriaid amrywiol yn hanfodol i arweinwyr ac ymarferwyr Iechyd Cyhoeddus er mwyn mynd i’r afael â phenderfynyddion ehangach iechyd. O fewn Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, mae Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus (BGC) yn sefydliadau allweddol ar gyfer gweithio mewn partneriaeth yng Nghymru. Ond mae astudiaethau’n dangos yn gyson fod partneriaethau strategol yn methu dod i gytundeb ar weithredu ar y cyd sy’n fuddiol i bob un ohonynt.

Archwiliodd prosiect ymchwil estynedig gyda BGC y potensial i drawsnewid perthnasoedd y bartneriaeth. Yn y gweminar hwn, mae Dr Elizabeth Woodcock yn rhoi golwg i ni i’r tensiynau rhwng arbenigo a deialog, hierarchaeth a chyfrifoldeb ar y cyd, ac effeithlonrwydd a chynwysoldeb.

Ymunodd aelodau’r BGC ac eraill â’r ymchwilydd mewn ymchwil weithredol, sef dull cyfranogol ar gyfer dysgu ar y cyd. Mae’r canfyddiadau’n cynnig dulliau profedig i Iechyd Cyhoeddus a chynrychiolwyr eraill BGCau i drafod y tensiynau a saernïo diwylliant partneriaeth cydweithredol.

Caiff cyflwyniad Elizabeth ei gyflwyno gan Kevin Griffiths, Pennaeth Partneriaethau Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru, sy’n esbonio pwysigrwydd gweithio mewn partneriaethau strategol yng Nghymru.

Dyddiad

Mai 2023

Tanysgrifio i’n sianel YouTube

Tanysgrifio i’n sianel YouTube i gael eich hysbysu am y fideos diweddaraf gennym ni.



Cyfrannu at ein fideos

A oes gennych adnodd yr hoffech ei rannu? Dewch yn aelod a chyfrannu at ein rhwydwaith.

Nodi problem

Rydym yn gwneud ein gorau i gadw’r dudalen hon mor gyfredol â phosibl.
Os byddwch yn canfod bod unrhyw wybodaeth yn arwain at ddolen farw neu os hoffech roi adborth ar y dudalen hon, cysylltwch â ni isod.

Yn ôl i'r brig