Rheolau newydd yn gwneud dewisiadau iachach yn haws

Daw rheolau newydd i sy’n helpu pobl i wneud dewisiadau bwyd iachach gan nodi carreg filltir arwyddocaol yn y frwydr yn erbyn gordewdra.

Mae lefelau gordewdra yn cynyddu yng Nghymru, mae 60% o oedolion dros bwysau neu’n ordew, ac mae bron i chwarter y plant dros bwysau neu’n ordew erbyn iddynt ddechrau’r ysgol.

Mae ein hamgylchedd bwyd wedi datblygu mewn ffordd sy’n ei gwneud hi’n anoddach gwneud dewisiadau iachach, gyda bwydydd hawdd, cyflym, sy’n aml yn uwch mewn braster, siwgr a halen, yn cael eu blaenoriaethu dros opsiynau iachach.

Mae’r rheoliadau’n rhoi cyfrifoldebau newydd ar fanwerthwyr canolig a mawr i helpu pobl i wneud dewisiadau iachach wrth siopa a bwyta allan.

Bydd y rheoliadau yn atal manwerthwyr rhag llywio cwsmeriaid tuag at gynhyrchion llai iach trwy hyrwyddiadau, fel disgownt amleitem, a thrwy osod bwydydd sy’n uchel mewn braster, halen a siwgr wrth fynedfeydd a mannau talu.

Mae ymchwil yn awgrymu bod cynigion arbennig a lleoli cynhyrchion mewn lleoliadau amlwg yn y siop ac ar-lein yn cael dylanwad sylweddol ar ein dewisiadau bwyd ac yn ein hannog i brynu a bwyta mwy nag yr oeddem yn bwriadu.

Myw o wybodaeth

Yn ôl i’r holl newyddion

Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun

Save

Save this article for later


Dod yn aelod

Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Yn ôl i'r brig