Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn datblygu dull newydd o roi atal wrth wraidd iechyd a gofal yng Nghymru
Mae arbenigwyr iechyd cyhoeddus yng Nghymru yn dweud bod cefnogi pobl i aros yn iach yn allweddol i fynd i’r afael â rhai o’r heriau presennol sy’n wynebu’r system iechyd a gofal. Mae 48 y cant o oedolion yng Nghymru yn profi cyflyrau hirdymor, y gellir eu hatal neu eu rheoli o bosibl trwy ymyrraeth gynharach, gyda 20 y cant yn byw gyda dau gyflwr o’r fath neu fwy.
Problemau cyhyrysgerbydol yw’r rhai a adroddir fwyaf (17 y cant), ac yna problemau iechyd meddwl (12 y cant) a chyflyrau’r galon a chylchrediad y gwaed (11 y cant). Yn ogystal, mae marwolaethau y gellir eu hosgoi ddwywaith yn uwch yn y cymunedau mwyaf difreintiedig o’i gymharu â’r rhai lleiaf.
Er mwyn helpu i wella hyn, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi datblygu dull newydd sydd â’r nod o ymgorffori atal mewn penderfyniadau bob dydd ar draws y system – gan helpu pobl yng Nghymru i fyw bywydau hirach ac iachach.
Mae’r Fframwaith Iechyd a Gofal sy’n Seiliedig ar Atal (PBHC) yn nodi’r camau gweithredu allweddol sydd eu hangen i sicrhau bod gwasanaethau nid yn unig yn trin salwch ond hefyd yn gwella iechyd a lles wrth leihau anghydraddoldebau iechyd.
Mae’r rhain yn cynnwys nodi pobl sydd mewn perygl yn gynharach a chydweddu gwaith atal ar draws y GIG a gofal cymdeithasol.
Mae llawer o strategaethau atal eisoes yn cael eu cyflwyno yng Nghymru, gan gynnwys Rhaglen Atal Diabetes Cymru Gyfan, Atal Strôc, gwasanaethau Atal Cwympiadau a mwy.
Bydd y dull PBHC yn anelu at nodi risgiau iechyd yn gynharach a thrwy helpu pobl i aros yn iach, bydd yn lleihau effaith y cyflyrau hyn ar unigolion a’r GIG.
Mae atal hefyd yn rhan bwysig o’r ateb i sicrhau gwasanaethau iechyd a gofal cynaliadwy, yn enwedig yn wyneb pwysau cynyddol ar y GIG. Mae Fframwaith PBHC yn dwyn ynghyd amrywiaeth o ddulliau i ymgorffori atal yn gynhwysfawr yn y system iechyd a gofal. Mae hyn yn cynnwys mynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd, rheoli iechyd y boblogaeth, gwella gwasanaethau gofal iechyd, a gweithio gyda sectorau eraill i wneud iechyd yn rhan o bob polisi a phenderfyniad.
Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun
Save
Save this article for later
Dod yn aelod
Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.