Iechyd Cyhoeddus Cymru yn croesawu ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar ffyrdd o wella iechyd pobl ifanc a lleihau gordewdra

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi croesawu lansiad ymgynghoriad gan Lywodraeth Cymru gyda’r nod o ddatblygu syniadau newydd ar gyfer deddfwriaeth i wella iechyd pobl ifanc, ac i atal y cynnydd mewn cyfraddau gordewdra yng Nghymru.

Wedi’i lansio gan y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, Lynne Neagle, mae’r ymgynghoriad yn edrych ar syniadau megis a ddylid cyfyngu ar werthu diodydd egni i’r rhai o dan 16 oed, a chyfyngu ar y siopau tecawê bwyd poeth ger ysgolion.

Mae hefyd am glywed barn pobl ar gyfyngu ar hyrwyddo bwydydd sy’n uchel mewn braster, siwgr neu halen, gan roi terfyn ar ail-lenwi diodydd siwgr ac ehangu’r broses o gyhoeddi calorïau ar fwydlenni.

Yn ôl i’r holl newyddion

Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun

Save

Save this article for later

Dod yn aelod

Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Yn ôl i'r brig