Cefnogaeth gref gan y cyhoedd ar gyfer camau gweithredu’r llywodraeth yn erbyn gordewdra
Mae arolwg newydd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dangos cefnogaeth gref gan y cyhoedd yng Nghymru ar gyfer camau gweithredu gan y llywodraeth i wneud y bwyd rydym yn ei brynu yn iachach.
Yn yr arolwg, mae 57 y cant o bobl yn cytuno y dylai llywodraethau ddefnyddio dulliau gweithredu ariannol fel trethi i leihau siwgr mewn bwydydd sydd â lefelau uchel. Mae 29 y cant yn anghytuno.
Mae 81 y cant hefyd yn credu y dylai opsiynau diodydd iach, fel dŵr neu laeth, fod yn opsiwn diofyn ar gyfer cynigion arbennig bwyd i blant. Mae 70 y cant yn dweud y dylai hysbysebu bwyd a diodydd afiach i blant gael ei wahardd.
Mae 84 y cant o bobl yn dweud eu bod yn bwriadu cymryd camau gweithredu o fewn y 12 mis nesaf i gyflawni neu gynnal pwysau iach – ond mae 34 y cant yn dweud y gallai gormod o demtasiynau eu hatal rhag cymryd y camau gweithredu.
Daw’r canfyddiadau newydd wrth i lywodraethau yng Nghymru, yr Alban Lloegr ystyried y camau nesaf i wneud amgylcheddau bwyd yn iachach.
Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun
Save
Save this article for later
Dod yn aelod
Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.