Rhaglen Atal Diabetes Cymru Gyfan yn cymryd y cam nesaf ymlaen

Ym mis Mawrth 2021, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru gyllid ar gyfer Rhaglen Atal Diabetes Cymru Gyfan (AWDPP), sy’n cael ei harwain gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Bydd y rhaglen genedlaethol hon, a fydd yn cyfrannu at weithredu’r Cynllun Cyflawni Pwysau Iach, Cymru Iach, yn gweld ymarferwyr gofal iechyd yn cyflwyno ymyriad byr i bobl y nodwyd eu bod mewn perygl uwch o ddiabetes math 2. Bydd yr AWDPP yn cael ei gyflwyno’n raddol gyda gwerthusiad integredig i gefnogi datblygiad rhaglen sy’n seiliedig ar dystiolaeth.

Yr hadroddiad, ‘Datblygu’r Ymyriad ar gyfer Rhaglen Atal Diabetes Cymru Gyfan‘, yn amlinellu dyluniad ymyriad AWDPP, elfennau allweddol y gwaith sy’n sail iddo, a thrylwyredd y broses a wnaed i gyrraedd y dyluniad hwn. Mae’r AWDPP yn adeiladu ar ddulliau a gafodd eu treialu a’u gwerthuso mewn dau glwstwr gofal sylfaenol ar wahân, sef Cwm Afan a Gogledd Ceredigion.

Yn ôl i’r holl newyddion

Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun

Save

Save this article for later


Dod yn aelod

Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Yn ôl i'r brig