Rhaglen Atal Diabetes GIG Cymru yn lleihau’r risg o ddatblygu diabetes math 2 gan bron i chwarter
Mae Rhaglen Atal Diabetes Cymru Gyfan (RhADCG) yn llwyddo i atal neu ohirio diabetes math 2, yn ôl adroddiad gwerthuso a ryddhawyd heddiw gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Ar hyn o bryd, mae dros 220,000 o bobl yng Nghymru yn byw gyda diabetes, yn bennaf diabetes math 2 – sy’n gyflwr hirdymor a all leihau ansawdd bywyd a byrhau oes. Heb ymyriadau i atal diabetes math 2, mae rhagamcanion yn dangos y bydd un o bob 11 oedolyn yng Nghymru yn datblygu diabetes math 2 erbyn 2035.
Mae Rhaglen Atal Diabetes Cymru Gyfan yn ymyriad byr ac arloesol sy’n cefnogi ac yn cynghori’r rhai sydd mewn perygl o ddatblygu diabetes math 2. Mae’r rhaglen yn cefnogi pobl sy’n wynebu risg uwch o ddatblygu diabetes math 2 i wneud newidiadau i’w deiet ac i fod yn fwy egnïol yn gorfforol.
Caiff pobl eu hadnabod fel rhai sydd mewn perygl drwy brawf gwaed, sy’n mesur lefelau siwgr gwaed (glwcos) cyfartalog unigolyn dros y ddau i dri mis diwethaf.
Caiff pobl gymwys sy’n byw mewn ardaloedd lle mae’r rhaglen yn cael ei chyflwyno eu hatgyfeirio at weithiwr cymorth gofal iechyd hyfforddedig a fydd yn siarad â nhw am yr hyn y gallant ei wneud i leihau eu risg o ddatblygu diabetes math 2. Gellir eu hatgyfeirio at ffynonellau cymorth ychwanegol hefyd.
Lansiwyd y rhaglen genedlaethol hon a ariennir gan Lywodraeth Cymru gan y byrddau iechyd yn 2022 ac mae wedi cael ei chynnig i dros 10,000 o bobl ledled Cymru.
Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun
Save
Save this article for later
Dod yn aelod
Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.