GIG Cymru yn grymuso’r cyhoedd gydag apiau atal a rheoli diabetes am ddim

Mae tri ap pwerus bellach ar gael i fynd i’r afael â her gynyddol diabetes Cymru – sy’n ategu rhaglen wyneb yn wyneb lwyddiannus sydd eisoes wedi helpu dros 10,000 o bobl. 

Mae GIG Cymru wedi buddsoddi mewn trwydded ledled Cymru ar gyfer tri ap arloesol sy’n cefnogi atal diabetes Math 2 i’r rhai sydd mewn perygl uchel a hunanreolaeth i’r rhai sydd eisoes wedi cael diagnosis. 

Mae ffigurau diweddar a ryddhawyd gan Diabetes UK Cymru yn datgelu realiti sy’n peri pryder: Mae gan 555,228 o bobl yng Nghymru – neu un o bob pump o oedolion – ddiabetes neu gyn-ddiabetes ar hyn o bryd. 

Mae’r apiau’n cael eu hariannu gan Iechyd Cyhoeddus Cymru fel rhan o’r Rhaglen Mynd i’r Afael â Diabetes Gyda’n Gilydd, sy’n dangos ymrwymiad i gyflymu mentrau a all helpu i atal diabetes Math 2 a gwella ansawdd a hyd bywyd pawb sy’n byw gyda diabetes ledled Cymru.  

Mae’r datrysiadau digidol yn ategu Rhaglen Atal Diabetes Cymru Gyfan (AWDPP) lwyddiannus, a lansiwyd ym mis Mehefin 2022 ac a ariennir gan Lywodraeth Cymru. Mae’r rhaglen wyneb yn wyneb hon yn cefnogi pobl sydd mewn perygl uchel o ddatblygu diabetes Math 2 ac mae eisoes wedi helpu dros 10,000 o bobl ledled Cymru. 

Caiff AWDPP ei gyflwyno’n lleol mewn gofal sylfaenol gan dimau ymroddedig o weithwyr cymorth gofal iechyd hyfforddedig a deietegwyr, sy’n gweithredu mewn 35 allan o 60 o glystyrau gofal sylfaenol ledled Cymru. Mae’r rhai sy’n cymryd rhan yn derbyn cefnogaeth bersonol i wneud newidiadau deietegol, cynyddu gweithgarwch corfforol, a chynnal pwysau iach. 

Yn ôl i’r holl newyddion

Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun

Save

Save this article for later


Dod yn aelod

Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Yn ôl i'r brig