Bydd 48,000 o bobl ychwanegol â diabetes yng Nghymru erbyn 2035

Gallai tua un o bob 11 o oedolion yng Nghymru fod yn byw gyda diabetes erbyn 2035 os yw’r tueddiadau presennol yn parhau, yn ôl dadansoddiad newydd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ar Ddiwrnod Diabetes y Byd.

Byddai hyn yn 48,000 o bobl ychwanegol â’r clefyd a chynnydd o 22 y cant o gymharu â 2021/22.

Byddai cynnydd fel hyn yn rhoi pwysau ychwanegol sylweddol ar wasanaethau iechyd.  Ar gyfartaledd, costiodd cyfnodau yn yr ysbyty a oedd yn gysylltiedig â diabetes £4,518 fesul cyfnod yn yr ysbyty i GIG Cymru yn 2021/22, heb gynnwys cyfnodau sy’n ei gwneud yn ofynnol cael trychiadau.  Gwariwyd £105 miliwn ar gyffuriau i reoli diabetes yng Nghymru yn 2022/23.

Mae dros 200,000 o bobl yng Nghymru eisoes yn byw gyda diabetes, sef tua wyth y cant o oedolion.  Mae gan tua 90 y cant o’r achosion hyn ddiabetes math 2, a gallai dros hanner ohonynt gael eu hatal neu eu hoedi drwy newidiadau mewn ymddygiad.

Myw o wybodaeth

Yn ôl i’r holl newyddion

Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun

Save

Save this article for later

Dod yn aelod

Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Yn ôl i'r brig