GIG Cymru yn Lansio Cymorth Diabetes Ychwanegol yn Dilyn Astudiaeth Mewnwelediadau Cleifion
Mae ymchwil newydd a gomisiynwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi datgelu mewnwelediadau allweddol i sut y gellir cefnogi pobl â diabetes Math 2 yng Nghymru yn well i fyw’n dda am hirach gyda’r cyflwr.
Mae GIG Cymru yn datblygu pecyn cynhwysfawr o gymorth ychwanegol ar gyfer diabetes yn dilyn yr ymchwil sydd wedi tynnu sylw at brofiadau ac anghenion pobl sy’n byw gyda diabetes Math 2 ledled y wlad a’r clinigwyr sy’n eu cefnogi. Mae hyn yn cynnwys sut mae pobl â Diabetes Math 2 yn llawn cymhelliant i reoli eu cyflwr, ond gallant ei chael hi’n anodd amsugno gwybodaeth tuag adeg eu diagnosis.
Roedd yr astudiaeth, sydd wedi’i hategu gan fodelau a fframweithiau newid ymddygiad ac a gynhaliwyd gan Beaufort Research rhwng mis Chwefror a mis Mai 2025, yn cynnwys sgyrsiau manwl gyda 50 o oedolion sy’n byw gyda diabetes Math 2 a 15 o weithwyr gofal iechyd proffesiynol ledled Cymru sy’n darparu gofal a chymorth i bobl sy’n byw gyda diabetes. Archwiliodd y sgyrsiau’r rhwystrau a’r hwyluswyr i ymgysylltiad cleifion â:
• Gwasanaethau iechyd (er enghraifft, mynd i apwyntiadau, ceisio cymorth pan fo angen gan amrywiaeth o weithwyr proffesiynol fel meddygon teulu, nyrsys practis, nyrsys arbenigol diabetes, deietegwyr, sgrinwyr llygaid diabetig, podiatryddion, ac ymgynghorwyr ysbyty – ymhlith eraill – i helpu pobl i fyw’n dda gyda’u diabetes a’i reoli)
• Hunanreoli Diabetes Math 2 (gan gynnwys pethau fel cymryd meddyginiaeth fel y’i rhagnodir, gwirio lefelau siwgr yn y gwaed, a bod yn egnïol bob dydd).
Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun
Save
Save this article for later
Dod yn aelod
Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.