Mae argyfwng diabetes Cymru yn gwaethygu’n gyflymach nag a ragwelwyd — ond nid oes rhaid iddo 

Mae nifer y bobl sy’n byw gyda diabetes yng Nghymru yn cynyddu’n gyflymach nag a ragwelwyd yn flaenorol, yn ôl data newydd gan GIG Cymru. Mae hyn wedi cymell Iechyd Cyhoeddus Cymru a Diabetes UK Cymru i ddod at ei gilydd i alw ar bobl i adnabod eu risg o ddiabetes Math 2 a gweithredu nawr, fel y gallant fyw bywydau hirach ac iachach yfory. 

Mae’r ffigurau diweddaraf (2025) yn dangos bod 230,371 o bobl 17 oed a hŷn yng Nghymru bellach yn byw gyda diabetes — sy’n gynnydd o 7,685 o bobl, neu 3.5 y cant, mewn un flwyddyn (222,686 yn 2024). Mae’r gyfradd twf hon yn llawer uwch na’r rhagamcanion a wnaed gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn 2021/22, a ragwelodd y byddai Cymru yn cyrraedd 260,000 – neu un o bob 11 o bobl yn cael diagnosis sy’n dangos eu bod yn byw gyda diabetes erbyn 2035. Ar y cyfraddau twf presennol, gallai’r garreg filltir honno gyrraedd yn llawer cynharach. 

Amcangyfrifir bod 269,747 o bobl eraill yng Nghymru yn byw gyda’r cyflwr cyn-ddiabetes — sy’n eu rhoi mewn perygl uchel iawn o ddatblygu’r cyflwr. Amcangyfrifir hefyd bod 58,906 o bobl yn byw gyda diabetes Math 2 heb ei ddiagnosio, ac yn anymwybodol o’r difrod a allai fod yn digwydd eisoes. Mae tua un o bob pump o oedolion yng Nghymru yn byw gyda diabetes neu’r cyflwr cyn-ddiabetes ar hyn o bryd. 

Diabetes math 2 sy’n cyfrif am y rhan fwyaf o achosion. Os na chaiff ei reoli, gall arwain at gymhlethdodau difrifol gan gynnwys colli golwg, clefyd yr arennau, niwed i’r nerfau, a chlefyd cardiofasgwlaidd – a fydd yn amddifadu pobl o’u hannibyniaeth, eu hansawdd bywyd, ac mewn gormod o achosion, blynyddoedd o’u bywydau. Mae’r cyflwr yn effeithio’n anghymesur ar bobl sy’n byw mewn ardaloedd o heriau cymdeithasol ac economaidd mwy a’r rhai o gefndiroedd De Asiaidd, Du Affricanaidd, a Du Caribïaidd, gan ddyfnhau’r anghydraddoldebau iechyd presennol ledled Cymru. 

Fodd bynnag, trwy weithredu’n gynnar, yn aml, gellir atal diabetes Math 2 yn llwyr. I’r rhai sydd eisoes yn byw gyda’r cyflwr, efallai y bydd modd ei leddfu – a chyda’r wybodaeth a’r gefnogaeth gywir, gall pobl fyw’n dda gyda diabetes ac osgoi’r cymhlethdodau a brofodd cenedlaethau blaenorol fel rhai anochel. 

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru a Diabetes UK Cymru yn dod at ei gilydd i annog pobl ledled Cymru i chwilio am; lleihau fy risg o ddiabetes math 2 Cymru, fel y gallant ddefnyddio’r offeryn rhad ac am ddim Adnabod Eich Risg Diabetes UK fel cam cyntaf. Yna byddant yn gallu cael rhagor o wybodaeth a chymorth ar amrywiaeth o wasanaethau a all helpu i leihau eu risg o ddiabetes Math 2, megis Rhaglen Atal Diabetes Cymru Gyfan (AWDPP), y cynnig Pwysau Iach, Byw’n Iach, addysg ar-lein Let’s Prevent, Helpa Fi i Stopio a thudalennau gwe sy’n cynnwys adnoddau Diabetes. Y neges allweddol yw y gall cymryd camau cynnar wneud gwahaniaeth mawr i’ch iechyd yn y dyfodol.  

Myw o wybodaeth

Yn ôl i’r holl newyddion

Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun

Save

Save this article for later


Dod yn aelod

Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Yn ôl i'r brig