Profiadau niweidiol yn ystod plentyndod yn gysylltiedig â sut rydym yn ymgysylltu â gwasanaethau gofal iechyd
Mae ymchwil newydd gan Brifysgol Bangor ac Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi darganfod bod oedolion a ddioddefodd Profiad Niweidiol yn ystod Plentyndod megis cam-drin plant neu fyw mewn cartref gyda thrais domestig, yn ymgysylltu llai â gwasanaethau gofal iechyd.
Gall profiadau plentyndod ddylanwadu ar iechyd, llesiant ac ymddygiadau drwy gydol bywyd unigolyn, a gall dod i gysylltiad â Phrofiad Niweidiol yn ystod Plentyndod gynyddu’r risg o fabwysiadu ymddygiadau sy’n niweidio iechyd a datblygu salwch corfforol a meddyliol.
Arolygodd yr ymchwil hwn 1,696 o oedolion yng Nghymru a Lloegr a darganfuwyd bod unigolion a oedd wedi profi pedwar math o Brofiad Niweidiol yn ystod Plentyndod neu fwy dros ddwywaith yn fwy tebygol o adrodd am gysur isel wrth ddefnyddio ysbytai, practisiau meddygon teulu a deintyddfeydd, o’u cymharu â’r rhai heb unrhyw ACE. Roeddent hefyd dros deirgwaith yn fwy tebygol o feddwl nad yw gweithwyr iechyd proffesiynol yn poeni am eu hiechyd nac yn deall eu problemau. Roedd pobl a oedd wedi profi pedwar Profiad Niweidiol yn ystod Plentyndod neu fwy hefyd unwaith a hanner yn fwy tebygol o nodi eu bod yn cymryd meddyginiaethau presgripsiwn ar hyn o bryd ac yn nodi nad oeddent bob amser yn cymryd meddyginiaeth yn ôl y cyfarwyddiadau, o’u cymharu â’r rhai nad oeddent wedi cael yr un Profiad Niweidiol yn ystod Plentyndod.
Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun
Save
Save this article for later
Dod yn aelod
Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.