Paratoi’r ffordd at gael cymorth yr un diwrnod ar gyfer iechyd meddwl

Bydd pobl sydd angen cymorth iechyd meddwl yn gallu troi fwyfwy at wasanaethau yr un diwrnod, yn sgil cynllun uchelgeisiol i wella gofal ymhellach ledled Cymru.

Mae’r strategaeth iechyd meddwl a llesiant meddyliol 10 mlynedd newydd yn rhoi pwyslais ar atal ac ymyrryd yn gynnar, canolbwyntio ar yr unigolyn a sicrhau bod pobl yn cael eu cyfeirio at y math mwyaf priodol o gymorth ar yr adeg gywir, heb oedi.

Rhan allweddol o’r gwaith o drawsnewid gofal iechyd meddwl fydd gwasanaethau mynediad agored, fydd yn golygu bod pobl yn cael cymorth yr un diwrnod heb fod angen atgyfeiriad.

Mae’r newid eisoes wedi dechrau wrth i wasanaeth 111 pwyso 2 ar gyfer gofal iechyd meddwl brys gael ei gyflwyno drwy Gymru.

Bydd hwn yn cael ei ddatblygu ymhellach drwy fodel fesul cam, fydd yn darparu cymorth priodol ar bob lefel. Dim ond os oes angen, a phan fo angen, y bydd pobl yn cael eu hatgyfeirio at gymorth dwysach.

Myw o wybodaeth

Yn ôl i’r holl newyddion

Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun

Save

Save this article for later


Dod yn aelod

Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Yn ôl i'r brig