Nifer yr achosion o ganser yn adfer tuag at lefelau cyn y pandemig

Mae nifer yr achosion o ganser yng Nghymru yn dangos arwyddion o adfer i lefelau cyn y pandemig o ran canfod, gyda gwelliannau nodedig yn y cyfraddau canfod ar gyfer canser y coluddyn a chanser y fron mewn menywod rhwng 2020 a 2021. 

Yn 2021, cynyddodd nifer yr achosion o ganser newydd 10.2 y cant o gymharu â 2020, gyda chyfanswm o 19,625 o achosion yn cael diagnosis. Fodd bynnag, mae’r ffigur hwn yn parhau 3.9 y cant yn is na’r cyfartaledd cyn y pandemig a welwyd yn ystod 2018-2019. Mae’r data’n adlewyrchu darlun cymysg ar draws gwahanol fathau o ganser, gyda rhai yn adfer yn fwy cadarn nag eraill. 

Mae’r adferiad wedi bod yn arbennig o gryf ar gyfer canser y coluddyn a chanser y fron mewn menywod, lle roedd nifer yr achosion a ganfuwyd yn 2021 yn uwch na’r lefelau cyn y pandemig. Gwelodd diagnosis o ganser y coluddyn gynnydd o 9.4 y cant, gydag achosion o ganser y fron mewn menywod wedi codi 5.5 y cant o gymharu â chyfartaledd 2018-2019. 

Gellir priodoli’r adferiad hwn, yn rhannol, i adfer rhaglenni sgrinio cenedlaethol ar gyfer y canserau hyn yn llwyddiannus ac yn brydlon, a gafodd eu hoedi dros dro yn ystod y cyfyngiadau symud cyntaf ym mis Mawrth 2020. Cafodd y rhaglenni sgrinio ar gyfer canser y coluddyn a chanser y fron mewn menywod eu hadfer ym mis Awst 2020, gan arwain at ddychweliad diagnosis disgwyliedig o ganser a ganfuwyd drwy sgrinio. O fis Hydref 2021 gostyngodd y Rhaglen Sgrinio’r Coluddyn yr ystod oedran a dechrau gwahodd pobl rhwng 58 a 60 oed. 

Er bod yr adlam o ran diagnosis o ganser y coluddyn a chanser y fron mewn menywod yn galonogol, nid yw canserau eraill wedi profi’r un lefel o adferiad. Roedd diagnosis canser yr ysgyfaint yn 2021 yn dal 3.9 y cant yn is na’r lefelau cyn y pandemig, ac mae canser y prostad yn parhau i weld oedi sylweddol, gyda gostyngiad 20.4 y cant mewn achosion a ganfuwyd o gymharu â 2018-2019. 

Mae’n debygol bod gwahaniaethau mewn llwybrau gofal iechyd yn dylanwadu ar amrywiadau mewn cyfraddau adfer ar draws mathau gwahanol o ganser. Er enghraifft, mae canserau’r ysgyfaint, sy’n aml yn cael diagnosis yn dilyn cyflwyniad symptomatig, wedi gweld adferiadau arafach.  

Myw o wybodaeth

Yn ôl i’r holl newyddion

Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun

Save

Save this article for later


Dod yn aelod

Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Yn ôl i'r brig