Mae angen mwy o ymwybyddiaeth i gymryd y cam N.E.S.A. i drin strôc ac achub bywydau

Mae arbenigwyr iechyd cyhoeddus yn annog pobl i ymgyfarwyddo â symptomau strôc, un o’r achosion mwyaf o farwolaeth yng Nghymru. Mae triniaeth feddygol gynnar ar gyfer strôc nid yn unig yn achub bywydau, mae’n cynyddu’r cyfle o wella hefyd. Mae’r ymgyrch Cam N.E.S.A. yn lansio ledled Cymru i atgoffa pobl am symptomau strôc a phwysigrwydd cael cymorth meddygol brys.

Strôc yw pumed achos arweiniol unigol marwolaeth yng Nghymru a’r achos unigol mwyaf o anabledd cymhleth. Mae oedi o ran cael triniaeth ar gyfer strôc yn lladd celloedd yr ymennydd ac yn anffodus gall fod yn angheuol. Dyna pam mae’n bwysig cymryd y cam N.E.S.A.

  • Nam ar yr wyneb – a yw’r wyneb wedi syrthio ar un ochr? Ydyn nhw’n gallu gwenu?
  • Estyn – Ydvn nhw’n gallu estyn y ddwy fraich uwch eu pen a’u cadw yno?
  • Siarad – ydvn nhw’n cael trafferth siarad?
  • Amser – hyd yn oed os nad ydych yn siŵr, ffoniwch 999.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi datblygu ymgyrch ddwyieithog genedlaethol i’w chynnal ar draws teledu, radio a’r cyfryngau cymdeithasol drwy gydol mis Ebrill a mis Mai 2023.

Yn ôl i’r holl newyddion

Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun

Save

Save this article for later


Dod yn aelod

Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Yn ôl i'r brig