Ystadegau swyddogol yn dangos cynnydd yn nifer yr achosion o ganser y croen di-felanoma yng Nghymru

Mae’r datganiad cyntaf o ystadegau swyddogol ar ganser y croen di-felanoma (NMSC) – y math mwyaf cyffredin o ganser yng Nghymru – wedi dangos cynnydd o saith y cant mewn achosion dros gyfnod o bedair blynedd.

Mae digwyddedd NMSC safonedig yn ôl oedran wedi cynyddu 7.1 y cant rhwng 2016 a 2019 – a dyma’r gyfradd uchaf o blith holl wledydd y DU.

NMSC yw’r grŵp o ganserau sydd â’r nifer uchaf o achosion yng Nghymru o bell ffordd.

NMSC oedd 43 y cant o’r holl achosion newydd o ganser yng Nghymru yn 2019, gyda 15,102 o achosion cyntaf, o gymharu â chyfanswm o 20,058 o achosion o’r holl fathau eraill o ganser gyda’i gilydd.

Yn wir, ar ôl addasu ar gyfer y gwahaniaethau o ran oedran, mae’r gyfradd ddigwyddedd ddwy waith a hanner yn uwch na chanser y prostad, sydd â’r gyfradd uchaf nesaf.

Y prif ffactor sy’n achosi NMSC yw amlygiad hirdymor i’r haul, ac mae’r gyfran uchaf o achosion yn y rhai dros 65 oed.  Mae fel arfer yn datblygu mewn rhannau o’r corff â’r amlygiad mwyaf i’r haul, fel y pen, yr wyneb, croen y pen a’r gwddf.

Yn wahanol i lawer o ganserau eraill, mae llai o risg y bydd NMSC yn lledaenu i rannau eraill o’r corff, er y gall hyn ddigwydd o hyd. Mae hyn yn golygu os ydynt yn cael diagnosis cynnar, gellir trin y rhan fwyaf o achosion yn llwyddiannus.

Myw o wybodaeth

Yn ôl i’r holl newyddion

Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun

Save

Save this article for later


Dod yn aelod

Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Yn ôl i'r brig