Mae anghydraddoldebau eang mewn cyfraddau marwolaethau canser yng Nghymru yn parhau – heb unrhyw welliant diweddar

Mae ystadegau swyddogol newydd gan Uned Gwybodaeth a Gwyliadwriaeth Canser Cymru yn dangos mai canser yw prif achos marwolaethau yng Nghymru o hyd. Buodd yn gyfrifol am chwarter yr holl farwolaethau yn ystod 2024.  

Roedd canser yr ysgyfaint, y coluddyn, y prostad, a chanser y fron ymysg menywod yn gyfrifol am bedwar o bob deg marwolaeth canser (43%) yn ystod 2024. 

Mae canser yr ysgyfaint yn cyfrif am ddau o bob deg marwolaeth canser (19%), er bod marwolaethau o ganser yr ysgyfaint wedi gostwng yn gyson ymhlith dynion dros y ddau ddegawd diwethaf. Fodd bynnag, mae marwolaethau ymhlith menywod heb newid i raddau helaeth. Mae hyn yn adlewyrchu’r rhyngweithio cymhleth sydd ar waith rhwng patrymau ysmygu y gorffennol, diagnosisau cam hwyr, a chyfraddau goroesi gwell. 

Mae cyfraddau’r marwolaethau o ganser yn parhau i fod yn uwch yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru o’u cymharu â’r ardaloedd lleiaf difreintiedig, ac ni chafwyd gwelliannau iddynt dros y cyfnod yr adroddir arno. Roedd y gyfradd 52% yn uwch yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig yn ystod 2024. 

Mae dros hanner yr holl farwolaethau canser yng Nghymru ymhlith pobl 75 oed a hŷn. Wrth i boblogaeth Cymru heneiddio, mae hyn wedi bod yn codi’n gyson. Bu cynnydd o 48% yn 2002 i 57% yn ystod 2024. 

Mae’r darlun o farwolaethau o ganser ar ôl y pandemig yn dal yn aneglur. Gall effeithiau parhaol y pandemig – yn enwedig ymhlith y rhai sydd bellach yn cyflwyno â chlefyd mwy datblygedig – barhau i ddylanwadu ar dueddiadau marwolaethau yn y blynyddoedd i ddod. Byddwn yn parhau i’w monitro ac adrodd arnynt. 

Myw o wybodaeth

Yn ôl i’r holl newyddion

Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun

Save

Save this article for later

Dod yn aelod

Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Yn ôl i'r brig