Llesiant meddyliol gwell yn gysylltiedig ag iechyd y galon gwell
Mae llesiant meddyliol gwell yn gysylltiedig ag iechyd y galon gwell. Mae tystiolaeth newydd yn dangos ei fod yn gysylltiedig â marwolaethau cardiofasgwlaidd is a ffactorau risg is fel pwysedd gwaed uchel a lefelau colesterol afiach.
Comisiynodd Iechyd Cyhoeddus Cymru Ganolfan Ymchwil Iechyd, Gweithgaredd a Llesiant Prifysgol Metropolitan Caerdydd i gynnal adolygiad cyflym o dystiolaeth astudiaethau a adolygwyd gan gymheiriaid a gyhoeddwyd rhwng 2005 a 2025. Nododd yr adolygiad 12 astudiaeth berthnasol a chanfu’r cysylltiadau cryfaf a mwyaf cyson ymhlith oedolion 50 oed a hŷn. Roedd tystiolaeth ar gyfer grwpiau iau yn fwy cymysg lle gallai ymddygiadau fel deiet, ysmygu a gweithgarwch corfforol chwarae rhan fwy.
Mae’r astudiaeth yn annog clinigwyr a gwasanaethau sy’n cefnogi iechyd cardiofasgwlaidd i gydnabod llesiant meddyliol fel rhan bwysig o iechyd, gan gynnwys holi ynghylch llesiant meddyliol, ei fesur a chyfeirio pobl at gyngor llesiant, fel rhan o ddull holistaidd o wella iechyd y galon.
Canfu fod pobl â llesiant meddyliol gwell yn tueddu i gael pwysedd gwaed is, a bod llesiant gwael yn gysylltiedig â risg uwch o glefyd y galon a strôc.
Gall hormonau straen gan gynnwys cortisol ac adrenalin effeithio’n negyddol ar iechyd cardiofasgwlaidd. Mae hyn yn darparu mecanwaith posibl ar gyfer deall dylanwad llesiant gwell ar iechyd y galon, yn ogystal ag ymddygiadau fel gweithgarwch corfforol.
Canfu’r astudiaeth hefyd dystiolaeth bod ymdeimlad uwch o berthyn yn rhagweld iechyd y galon gwell ymhlith pobl ifanc. Mae cysylltiad cymdeithasol yn gysylltiedig â lefelau uwch o ocsitosin sydd ag effeithiau lleddfu straen a gall gyfrannu at y cysylltiad hwn.
Mae’r dystiolaeth hon yn cefnogi symudiad ehangach tuag at waith atal, drwy gryfhau gofal sylfaenol a gofal yn y gymuned i sicrhau y gall gwasanaethau ymateb yn gynnar a chefnogi pob agwedd ar iechyd a llesiant pobl, yn enwedig i bobl sy’n byw gyda chyflyrau hirdymor.
Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun
Save
Save this article for later
Dod yn aelod
Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.