Newid Hinsawdd: mae’r rhan fwyaf o bobl yng Nghymru yn dweud bod angen newid y ffordd rydyn ni’n byw, yn ôl arolwg newydd
Mae mwyafrif helaeth y bobl yng Nghymru (84%) yn credu bod angen inni newid y ffordd rydyn ni’n byw yn sylweddol er mwyn mynd i’r afael a’r argyfwng hinsawdd, yn ol canlyniadau arolwg llywodraeth o 1,149 o ymatebwyr yng Nghymru.
O ystyried targedau uchelgeisiol Cymru ar gyfer dim gwastraff, strategaeth yr economi gylchol a’i lle ymhlith arweinwyr y byd ym maes ailgylchu, efallai nad yw’n syndod i 84% ddweud yr hoffent weld llai o fwyd byth yn cael ei wastraffu, llai o ddeunydd pacio a rhagor o ailgylchu. Dywedodd 81% eu bod eisoes yn ceisio gwastraffu cyn lleied o fwyd ag y bo modd, neu’n debygol o ddechrau gwneud hynny.
Er i 86% gyfaddef eu bod yn pryderu am newid hinsawdd, dim ond 15% o ymatebwyr a ddywedodd eu bod yn credu y byddai’n cael effaith ‘fawr iawn’ ar eu hardal leol. Fodd bynnag, roedd bron i hanner yr ymatebwyr (42%) yn cydnabod y gallai newid hinsawdd effeithio ar eu hardal ‘i ryw raddau’, gan adlewyrchu adroddiad diweddar y Pwyllgor ar Newid Hinsawdd a ddangosodd y risgiau dybryd a helaeth sy’n gysylltiedig â newid hinsawdd mae Cymru bellach yn eu hwynebu.
Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun
Save
Save this article for later
Dod yn aelod
Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.