Mae pobl Cymru angen mwy o gyfleoedd i amddiffyn eu lles meddyliol
Rydych chi’n fwy tebygol o adrodd am lesiant meddyliol gwaeth os ydych chi’n ifanc, yn fenyw, yn perthyn i grŵp ethnig lleiafrifol, os oes gennych anabledd neu os yw’ch iechyd yn wael. Dyna ganfyddiad arolwg o dros 1,200 o bobl yng Nghymru. Canfu’r ymchwil a gomisiynwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, fod y ffactorau hyn yn cael mwy o ddylanwad ar lesiant meddyliol na mynediad pobl at adnoddau a chyfleoedd.
Mae gofalu am ein lles meddyliol bob amser yn bwysig, hyd yn oed pan fo pethau’n mynd yn dda. Mae’r rhan fwyaf o bobl yng Nghymru yn cydnabod hyn. Roedd 93 y cant o’r rhai a gymerodd rhan yn yr arolwg yn cytuno ei bod yn bwysig cymryd camau i amddiffyn lles meddyliol. Fodd bynnag, mae llai o bobl yn gwybod pa gamau y gallent eu cymryd i gefnogi eu lles meddyliol. Roedd y rhai a oedd yn llai tebygol o fod yn ymwybodol o’r camau y gallant eu cymryd yn ddynion (74 y cant), yn bobl ifanc 18-29 oed (70 y cant), yn adrodd bod ganddynt anabledd (73 y cant) neu’n adrodd bod eu hiechyd yn wael (62 y cant).
Dim ond 50 y cant o’r bobl a gymerodd ran yn ein harolwg oedd yn fodlon ar y cyfleoedd a oedd ar gael iddynt i wneud gweithgareddau sy’n bwysig i’w lles meddyliol, naill ai ar eu pen eu hunain neu gyda phobl eraill yn eu cymunedau.
Dywedodd pobl ledled Cymru wrthym am amrywiaeth o weithgareddau sy’n eu helpu i deimlo’n dda a gweithredu’n dda. Y gweithgareddau mwyaf poblogaidd oedd gweithgarwch corfforol a bod allan ym myd natur. Bu oedran unigolyn yn effeithio ar ba fath o weithgareddau y buodd yn cymryd rhan ynddynt. Er enghraifft, pobl 30-39 oed oedd fwyaf tebygol o dreulio amser ym myd natur. Roedd rhywedd yn cael effaith hefyd. Roedd mwy o fenywod yn cymryd rhan mewn gweithgareddau creadigol ac yn cysylltu ag eraill trwy chwaraeon, clybiau cymdeithasol neu glybiau a sefydliadau eraill.
Roedd treulio amser gyda theulu a ffrindiau yn bwysig iawn i bobl. Yn enwedig bod yn rhan o grwpiau cyfeillgarwch sy’n rhannu’r un diddordebau a allai ddarparu cefnogaeth a dealltwriaeth.
Roedd amser hamdden hefyd yn bwysig i bobl, ond dim ond tua hanner y bobl a holwyd oedd yn fodlon ar faint o amser rhydd sydd ganddynt. Dywedodd 62 y cant o bobl eu bod yn gallu dod o hyd i amser i wneud pethau sy’n bwysig iddynt. Roedd dod o hyd i amser i wneud pethau sy’n bwysig iddynt yn arbennig o anodd i ofalwyr a phobl â babanod a phlant ifanc.
Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun
Save
Save this article for later
Dod yn aelod
Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.