Iechyd Cyhoeddus Cymru yn lansio offeryn newydd er mwyn helpu i leihau anghydraddoldeb iechyd
Mae platfform digidol newydd yn cael ei lansio er mwyn helpu rhanddeiliaid i ddatblygu mesurau i leihau anghydraddoldeb iechyd yng Nghymru. Wedi’i ddatblygu gan y tîm Polisi ac Iechyd Rhyngwladol yng Nghanolfan Gydweithredol Sefydliad Iechyd y Byd ar Fuddsoddi ar gyfer Iechyd a Llesiant, mae’n offeryn ar gyfer gweithwyr iechyd proffesiynol, awdurdodau lleol a gwneuthurwyr polisi er mwyn helpu i ysgogi syniadau a dod o hyd i atebion i broblemau tegwch.
Bydd Platfform Atebion Tegwch Iechyd Cymru yn gweithredu fel ystorfa o wybodaeth, astudiaethau achos ac ymyriadau blaenorol a ddefnyddir er mwyn helpu i fynd i’r afael ag annhegwch a rhannu arfer da yng Nghymru.
Mae’r platfform yn cynnwys offer data chwiliadwy a swyddogaeth llunio adroddiadau sy’n galluogi defnyddwyr i fewnbynnu eu termau chwilio a pharatoi allbynnau sy’n gysylltiedig â’r termau hynny. Mae’r platfform hefyd yn cynnig nodwedd sbotolau y gellir ei defnyddio i amlygu atebion neu themâu penodol.
Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun
Save
Save this article for later
Dod yn aelod
Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.