Anghydraddoldebau mewn disgwyliad oes yn cynyddu yng Nghymru

Mae adroddiad newydd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi canfod bod y bwlch mewn disgwyliad oes rhwng y rhai sy’n byw yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig a’r ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru yn cynyddu.

Er bod anghydraddoldebau o ran disgwyliad oes iach yn parhau’n sefydlog, mae’r bwlch o ran pa mor hir y gall rhywun ddisgwyl byw rhwng y poblogaethau lleiaf a mwyaf difreintiedig yng Nghymru wedi bod yn cynyddu ar y cyfan yn ystod y blynyddoedd diwethaf ar gyfer dynion a menywod, gan awgrymu anghydraddoldeb cynyddol. Roedd y bwlch anghydraddoldeb dros flwyddyn yn fwy i ddynion nag i fenywod.

Mae’r adroddiad sy’n cynnwys dadansoddiad o ddisgwyliad oes a disgwyliad oes iach ers 2011, hefyd wedi nodi gostyngiad bach yn nisgwyliad oes menywod rhwng 2018 a 2020, yr isaf ers dechrau’r adroddiadau. Mae disgwyliad oes yng Nghymru yn 82 mlynedd i fenywod a 78 mlynedd i ddynion yn yr un cyfnod hwn.

Yn ôl i’r holl newyddion

Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun

Save

Save this article for later


Dod yn aelod

Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Yn ôl i'r brig