Cymru fydd ‘cenedl Marmot’ gyntaf y byd i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd
Bydd Cymru yn dod yn genedl Marmot yn rhan o waith parhaus Llywodraeth Cymru i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd.
Mae hyn yn cynnwys mabwysiadu wyth egwyddor yr arbenigwr iechyd cyhoeddus, Syr Michael Marmot. Nod yr egwyddorion yw ceisio dileu gwahaniaethau annheg y gellid eu hosgoi ym maes iechyd, gwahaniaethau sy’n gallu cael eu hachosi gan ble y mae pobl yn byw, pa fath o waith y maen nhw’n ei wneud a sut y maen nhw’n cael eu trin mewn cymdeithas.
Mae hyn yn dilyn llwyddiant Torfaen, a fabwysiadodd egwyddorion Marmot yn gynnar wedi i ardal ehangach Gwent ddod yn rhanbarth Marmot.
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Jeremy Miles, wedi cytuno y bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda’r Sefydliad Tegwch Iechyd, a arweinir gan yr Athro Syr Michael Marmot, ac yn rhoi tegwch iechyd wrth wraidd llunio polisïau a gwneud penderfyniadau ar draws Llywodraeth Cymru.
Yn ymarferol, bydd hyn yn golygu gweithio gyda nifer o gymunedau ar draws Cymru i leihau anghydraddoldebau iechyd gan ddefnyddio egwyddorion Marmot, fel y mae Torfaen wedi’i wneud.
Mae’r ymrwymiad hwn yn adeiladu ar Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru, sy’n gosod dyletswydd gyfreithiol ar gyrff cyhoeddus i wella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol ac ystyried effaith hirdymor eu penderfyniadau. Yn ddiweddar, nodwyd 10 mlynedd ers y ddeddf.
Bydd y gwaith yn canolbwyntio ar fabwysiadu’r wyth egwyddor Marmot er mwyn gwneud y canlynol:
- Rhoi’r cychwyn gorau mewn bywyd i bob plentyn.
- Galluogi pob plentyn, person ifanc ac oedolyn i fanteisio i’r eithaf ar ei alluoedd a sicrhau rheolaeth dros ei fywyd.
- Creu cyflogaeth deg a gwaith da i bawb.
- Sicrhau safon byw iach i bawb.
- Creu a datblygu lleoedd a chymunedau iach a chynaliadwy.
- Cryfhau rôl ac effaith atal salwch.
- Mynd i’r afael â hiliaeth, gwahaniaethu a’u canlyniadau.
- Mynd ar drywydd cynaliadwyedd amgylcheddol a thegwch iechyd gyda’i gilydd.
Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun
Save
Save this article for later
Dod yn aelod
Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.