Dyfarnu £5 miliwn i leihau anghydraddoldeb iechyd

Mae £5 miliwn wedi’i ddyfarnu i brosiect partneriaeth sy’n cynnwys Iechyd Cyhoeddus Cymru gyda’r nod o leihau anghydraddoldeb iechyd a gwella llesiant yng Nghyngor Rhondda Cynon Taf.

Mae’r cyllid wedi’i ddyfarnu gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd a Gofal (NIHR) i alluogi Rhondda Cynon Taf i ddod yn Gydweithrediad Ymchwil Penderfynyddion Iechyd (HDRC).

Bydd y cydweithrediad, a arweinir ar y cyd gan Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru, yn dod â phartneriaid o Iechyd Cyhoeddus Cymru, Prifysgol Caerdydd, Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg, ac Interlink Rhondda Cynon Taf at ei gilydd.

Mae pob HDRC yn cael ei gynnal gan awdurdod lleol sy’n gweithio gyda phrifysgolion neu sefydliadau ag arbenigedd yn y penderfynyddion ehangach iechyd. Mae hyn yn dod â gwybodaeth llywodraeth leol ynghyd â sgiliau ymchwil o’r gymuned academaidd. Y nod yw gwella’r sail dystiolaeth ar gyfer gwneud penderfyniadau polisi mewn meysydd pwysig sy’n effeithio ar iechyd ac anghydraddoldebau iechyd.

Bydd y cyllid newydd yn defnyddio data ymchwil o benderfynyddion iechyd lleol i dynnu sylw at sut y gall y Fwrdeistref Sirol weithio gyda’i gymunedau a’i bartneriaid i wella iechyd cyhoeddus, lleihau anghydraddoldeb iechyd, a gwneud penderfyniadau gwell sy’n seiliedig ar dystiolaeth i ddarparu a llywio ein gwasanaethau ar gyfer y dyfodol.

Myw o wybodaeth

Yn ôl i’r holl newyddion

Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun

Save

Save this article for later


Dod yn aelod

Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Yn ôl i'r brig