Arloesi mewn technolegau iechyd digidol wedi’i rwystro gan annhegwch

Mae gwahaniaethau parhaus yn bodoli o ran cael mynediad at dechnolegau iechyd digidol a’u defnyddio ac ymgysylltu â nhw rhwng cymunedau ac ardaloedd ledled Ewrop, yn ôl papur newydd ei gyhoeddi, wedi’i gyd-awduro gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a Sefydliad Iechyd y Byd/Ewrop.

Mae ymgyngoriadau ffôn neu fideo, pyrth cleifion electronig, a defnyddio cofnodion iechyd electronig i gyd yn enghreifftiau o sut y gall technolegau digidol wella gofal iechyd i gleifion. Ond mae’r data’n dangos bod defnydd is a adroddir ar hyn o bryd ymhlith y rhai sydd ag iechyd sylfaenol gwaeth.

Mae patrymau o ran mynediad, defnydd a lefelau o ymgysylltu â thechnoleg ddigidol yn amrywio ar draws poblogaethau, gyda thystiolaeth gyson o ddefnydd uwch o dechnolegau iechyd digidol mewn ardaloedd trefol ac ymhlith unigolion o darddiad ethnig gwyn a siaradwyr Saesneg o gymharu â’r rhai o leiafrifoedd ethnig a’r rhai â rhwystrau iaith.

Roedd pobl â lefelau addysg uwch a statws economaidd uwch yn defnyddio’r technolegau hyn yn fwy, ac roedd pobl iau yn tueddu i’w defnyddio mwy nag oedolion hŷn. Ni chafwyd tystiolaeth glir ar anghydraddoldebau o ran ymgysylltu â thechnolegau iechyd digidol er bod y rhain yn debygol o fod yn amrywiol rhwng grwpiau poblogaeth.

Myw o wybodaeth

Yn ôl i’r holl newyddion

Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun

Save

Save this article for later


Dod yn aelod

Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Yn ôl i'r brig