Gallai mynd i’r afael ag anghydraddoldeb arbed £322 miliwn i ysbytai yng Nghymru bob blwyddyn

Mae anghydraddoldeb o ran y defnydd o ysbytai  yn costio’r hyn sy’n cyfateb i ysbyty GIG newydd sbon, neu gyflogau blynyddol bron 10,000 o nyrsys ychwanegol bob blwyddyn i’r GIG yng Nghymru, yn ôl adroddiad newydd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Neu, gallai’r arian a arbedir ddarparu pedair gwaith y cyllid sydd ei angen ar gyfer rhaglen flaenllaw Llywodraeth Cymru, sef Dechrau’n Deg, sy’n ceisio cynorthwyo’r teuluoedd, cymunedau a phlant ifanc mwyaf difreintiedig yng Nghymru.

Mae’r adroddiad, sy’n edrych ar wahanol wasanaethau ysbytai, yn dweud y gallai camau ataliol wedi’u targedu at wella cydraddoldeb iechyd rhwng cymunedau breintiedig a difreintiedig a’u mynediad amserol at wasanaethau iechyd helpu i leihau bwlch gofal iechyd o £322 miliwn, yn enwedig mewn derbyniadau brys a phresenoldeb mewn adrannau damweiniau ac achosion brys.

Yn ôl i’r holl newyddion

Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun

Save

Save this article for later


Dod yn aelod

Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Yn ôl i'r brig