Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi’i ddewis i gymryd rhan mewn rhaglen ar ddeall effaith COVID-19 ar newid gwasanaethau ac anghydraddoldebau iechyd

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi’i ddewis gan y Sefydliad Iechyd, elusen annibynnol sydd wedi ymrwymo i sicrhau gwell iechyd a gofal iechyd i bobl yn y DU, i fod yn rhan o’i raglen ymchwil newydd ar COVID-19.  Mae’r rhaglen yn ceisio deall effaith y pandemig mewn dau faes penodol:

  • sut y mae’r modd y darperir gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol wedi newid yn sgil COVID-19
  • effaith COVID-19 ar anghydraddoldebau iechyd a phenderfynyddion ehangach iechyd.

Mae’r rhaglen ymchwil yn cynorthwyo 10 tîm o bob rhan o’r DU gyda grantiau o rhwng £100,000 a £200,000. Bydd pob prosiect yn rhedeg am hyd at 12 mis.

Yn ôl i’r holl newyddion

Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun

Save

Save this article for later

Dod yn aelod

Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Yn ôl i'r brig