Adroddiad newydd yn nodi sut y gall lleihau anghydraddoldebau greu Gwent decach

Mewn ardaloedd ym mhob cwr o Went nid yw pobl yn byw mor hir ag y dylent mewn iechyd da – ac mae partneriaid Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (BGC) Gwent yn ceisio newid hynny.

Creu Gwent Decach: Gwella Tegwch Iechyd a’r Penderfynyddion Cymdeithasol – nod adroddiad newydd a luniwyd mewn partneriaeth rhwng Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwent a Sefydliad Tegwch Iechyd Coleg Prifysgol Llundain – yw lleihau’r bwlch o ran iechyd ar draws y rhanbarth.

Canfyddiadau allweddol yr adroddiad:

  • Mae’r plant tlotaf yng Ngwent yn dechrau’r ysgol 10 mis ar ôl plant o deuluoedd mwy cefnog. Mae anghydraddoldebau o ran iechyd a lles sy’n dechrau yn ystod oedran ysgol yn debygol o barhau a dylanwadu ar berson trwy gydol eu hoes.
  • Mae gwelliannau o ran disgwyliad oes wedi arafu ar draws rhannau helaeth o Went.
  • Mae bwlch anghydraddoldeb o 20 mlynedd o ran disgwyliad oes iach rhwng menywod a bwlch o 13 mlynedd rhwng dynion. Mae’r rhain ymhlith y bylchau anghydraddoldeb mwyaf yng Nghymru.
  • Yng Nghasnewydd a Blaenau Gwent, mae poblogaethau’r rhai 65+ oed yn gostwng, naill ai oherwydd gostyngiad yn y boblogaeth neu oherwydd bod disgwyliad oes yn gostwng. Mae disgwyliad oes iach ym Mlaenau Gwent, Casnewydd, Torfaen a Chaerffili hefyd yn is na chyfartaledd Cymru ar gyfer menywod a dynion.

Yn ôl i’r holl newyddion

Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun

Save

Save this article for later


Dod yn aelod

Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Yn ôl i'r brig