Asesiad o’r Effaith ar Iechyd ar gyfer Addasu Hinsawdd
Mae ymchwil gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, ynghyd â’r ymgynghoriaeth Urban Habitats, wedi dangos gwerth defnyddio Asesu’r Effaith ar Iechyd (HIA) wrth ddatblygu addasiadau i newid hinsawdd.
Mae’r astudiaeth, Asesu’r Effaith ar Iechyd ar gyfer Addasu i Newid Hinsawdd: Enghreifftiau o Ymarfer, yn cynnwys amrywiaeth o astudiaethau achos, nid dim ond o Gymru ond o Ogledd America hefyd.
Mae’r astudiaethau achos yn archwilio sut y gellir defnyddio dull HIA i sicrhau bod addasiadau i liniaru effeithiau newid hinsawdd yn diwallu anghenion grwpiau poblogaeth a daearyddiaethau penodol, sicrhau’r manteision mwyaf i iechyd a llesiant, atal risgiau anfwriadol i iechyd, ac osgoi ehangu anghydraddoldebau iechyd.
Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun
Save
Save this article for later
Dod yn aelod
Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.